Tuesday 31 January 2012

Cwymp Ceisiadau Prifysgolion Cymru

Cyhoeddwyd ddoe gan UCAS fod y nifer o geisiadau wedi cwympo o 9.3% i Brifysgolion Cymru. Mae rhai yn ddigon naturiol wedi holi beth yw goblygiadau hyn i bolisi ffioedd Llywodraeth Cymru, ond efallai fod hynny yn gynamserol.

Mae her amlwg i'r llywodraeth wrth ystyried fod y polisi ffioedd yn dibynnu ar niferoedd eitha' cyson o fyfyrwyr o Loegr yn dod i Gymru a thalu ffioedd uwch, a myfyrwyr o Gymru yn mynd i Loegr i'r un graddau ag oedden nhw cyn i'r newidiadau mawr mewn ffioedd ddigwydd i'r Dwyrain o Glawdd Offa. Ar yr olwg gyntaf felly mae'r ffaith bod ceisiadau o Loegr i Gymru wedi cwympo o 12.3% a bod ceisiadau o Gymru i Loegr wedi cynyddu o 2.5% yn destun pryder.


Ond, ac mae'n ond mawr, perthynas cymhleth sydd rhwng y nifer o geisiadau a'r sawl sy'n astudio yn y pendraw. Ar yr olwg gyntaf, byddai rhywun yn tybio y byddai fy hen Brifysgol, Aberystwyth, yn siomedig i weld cwymp o 10% o geisiadau. Ond byddai hynny yn gamarweiniol - mae Aberystwyth eisoes wedi cyhoeddi ei bod wedi derbyn digon o ymgeiswyr o safon uchel na fydd hi'n derbyn mwy o fyfyrwyr i'r flwyddyn 2012/13!

Bydd y darlun felly yn llawer cliriach erbyn mis Medi 2012 a bydd modd gwneud asesiad llawer mwy cywir o ba mor gynaliadwy yw polisi Llywodraeth Cymru, a faint o arian efallai bydd angen ar y gyllideb Addysg Uwch o gyllidebau eraill wrth i'r polisi aeddfedu tua 2014/15.

Mae'r penawdau hefyd yn celu ambell stori newyddion arbennig o dda. Mae 'na gynnydd clir iawn wedi bod yng Nghymru yn y niferoedd o fyfyrwyr o gymunedau difreintiedig sy'n ymgeisio i'r Brifysgol. Mae'r lefel bellach wedi cyrraedd 15% a hynny wedi codi o 10% ychydig flynyddoedd yn ôl. Mae yna waith i wneud wrth gwrs, ond mae'n amlwg i mi na fyddai'r cynnydd yma wedi digwydd pe tai'r un polisi ffioedd yng Nghymru ag sydd yn Lloegr.

No comments: