Tuesday 31 January 2012

Cwymp Ceisiadau Prifysgolion Cymru

Cyhoeddwyd ddoe gan UCAS fod y nifer o geisiadau wedi cwympo o 9.3% i Brifysgolion Cymru. Mae rhai yn ddigon naturiol wedi holi beth yw goblygiadau hyn i bolisi ffioedd Llywodraeth Cymru, ond efallai fod hynny yn gynamserol.

Mae her amlwg i'r llywodraeth wrth ystyried fod y polisi ffioedd yn dibynnu ar niferoedd eitha' cyson o fyfyrwyr o Loegr yn dod i Gymru a thalu ffioedd uwch, a myfyrwyr o Gymru yn mynd i Loegr i'r un graddau ag oedden nhw cyn i'r newidiadau mawr mewn ffioedd ddigwydd i'r Dwyrain o Glawdd Offa. Ar yr olwg gyntaf felly mae'r ffaith bod ceisiadau o Loegr i Gymru wedi cwympo o 12.3% a bod ceisiadau o Gymru i Loegr wedi cynyddu o 2.5% yn destun pryder.


Ond, ac mae'n ond mawr, perthynas cymhleth sydd rhwng y nifer o geisiadau a'r sawl sy'n astudio yn y pendraw. Ar yr olwg gyntaf, byddai rhywun yn tybio y byddai fy hen Brifysgol, Aberystwyth, yn siomedig i weld cwymp o 10% o geisiadau. Ond byddai hynny yn gamarweiniol - mae Aberystwyth eisoes wedi cyhoeddi ei bod wedi derbyn digon o ymgeiswyr o safon uchel na fydd hi'n derbyn mwy o fyfyrwyr i'r flwyddyn 2012/13!

Bydd y darlun felly yn llawer cliriach erbyn mis Medi 2012 a bydd modd gwneud asesiad llawer mwy cywir o ba mor gynaliadwy yw polisi Llywodraeth Cymru, a faint o arian efallai bydd angen ar y gyllideb Addysg Uwch o gyllidebau eraill wrth i'r polisi aeddfedu tua 2014/15.

Mae'r penawdau hefyd yn celu ambell stori newyddion arbennig o dda. Mae 'na gynnydd clir iawn wedi bod yng Nghymru yn y niferoedd o fyfyrwyr o gymunedau difreintiedig sy'n ymgeisio i'r Brifysgol. Mae'r lefel bellach wedi cyrraedd 15% a hynny wedi codi o 10% ychydig flynyddoedd yn ôl. Mae yna waith i wneud wrth gwrs, ond mae'n amlwg i mi na fyddai'r cynnydd yma wedi digwydd pe tai'r un polisi ffioedd yng Nghymru ag sydd yn Lloegr.

Sunday 29 January 2012

Hot Yoga, Blogio a Rhedeg!

Mae hot yoga wir yn dda - dyna ddarganfyddiad mawr fis Ionawr i mi! Fis yn ôl mi wnes i dair adduned blwyddyn newydd - trio hot yoga, blogio'n rheolaidd yn Gymraeg a rhedeg bob dydd.

Syndod o'r mwyaf yw'r un mwyaf anodd yw'r rhedeg. Mi wnâi pleidio rhywfaint o amddiffyniad gan i mi deimlo cyhyr mewn poen yn ras Nos Galan ac felly dwi di bod yn araf yn mynd nôl at y rhedeg - ond rwy'n gobeithio mod i wedi gwneud rhyw fath o ymarfer corff bob dydd - ond dwi'n sicr heb redeg! 0/1 felly.

Mae'r yoga serch hynny di bod yn llawer mwy llwyddiannus. Des i ar draws stiwdio yoga campus yng Nghaerdydd Yoga Fever sy'n cynnig amrywiol dosbarthiadau, ystafell boeth ar gyfer yr yoga - tua 35 gradd celsiws, a hyfforddwyr arbennig iawn. Mae'r hyfforddwyr yn bwysig i mi, gan fy mod i wedi darganfod ymarfer corff dwi'n neilltuol o wael wrth ei wneud! Maen nhw'n amyneddgar, yn gyfeillgar, ac er bod eraill yn y dosbarth yn gallu troi eu cyrff i bob math o siapiau a minnau ymhell ar ei hol, maen nhw'n ddieithriad yn gefnogol. Dwi wrth fy modd ac rwy'n dechrau teimlo fy arddull rhedeg yn gwella hefyd. (1/2)

Mae'r blog yn dal i fynd - sy'n welliant ar yr ymgais diwethaf yn sicr. Rwy' wedi derbyn adborth positif, ac un sylw ar adolygiad papurau Radio Cymru. Mae rhyw 100 o bobl yn darllen bob cofnod - sydd i'm tyb i yn dderbyniol iawn, ond does gen i ddim clem a yw hynny yn dda neu'n ddrwg. Hyd yn hyn y Comisiwn Ffiniau ac erthygl wadd gan Cynog Dafis sy' wedi derbyn y mwyaf o sylw. Mi fyddai'n parhau i flogio, ac mae'n rhaid cyfaddef ei fod yn gyfle da i roi rhywfaint o drefn ar fy meddyliau am amrywiol bethau sy'n digwydd yng Nghymru a thu hwnt.

Felly diolch am alw draw, dyw 2 o 3 adduned ddim yn ddrwg mae'n siŵr ... bydd mwy i ddod, ac os y'ch chi erioed ffansi bach o yoga poeth yng Nghaerdydd - yoga fever yw'r man i chi.

Saturday 28 January 2012

Pa mor bwysig yw arweinydd y Blaid genedlaethol?

Oes ots pwy'n sy'n ennill ras arweinyddol Plaid Cymru? oedd y cwestiwn holwyd gan fy nghyfaill Lee Waters y bore 'ma wrth drydar. Fel arfer, gyda chwestiynau Lee, mae'n gwestiwn da.

Y peth cyntaf i ddweud yw bod arweinwyr yn bwysig. Yn yr oes sydd ohoni mae pobl yn edrych ar arweinwyr y pleidiau ac mae hynny yn cael effaith mawr ar sut maen nhw'n meddwl am y blaid. Meddyliwch am Gordon Brown neu Alec Salmond am eiliad ac mae pwysigrwydd arweinyddiaeth yn dod i'r amlwg. Mae dawn cyfathrebu arweinydd yn rhan annatod o'r darlun.

Mae delwedd yr arweinydd yn un ffactor, ond mae sut mae'r arweinydd yn arwain ei b/phlaid hefyd yn bwysig iawn. Meddyliwch am sut oedd Tony Blair yn treulio nifer o oriau bob wythnos ar faterion Blaid Lafur. Meddyliwch am sut mae Salmond wedi rhoi undod a phwrpas i weithgareddau'r SNP - yn fewnol yn ogystal ag yn allanol.

Mae arweinwyr llwyddiannus hefyd yn tynnu tîm y blaid at ei gilydd. Mae gan bob plaid cymeriadau, ac mae gwleidyddiaeth yn tueddu o ddenu nifer o bobl dalentog (sydd hefyd yn gwybod eu bod yn dalentog - mae 'na ambell ego mawr ym mhob plaid!) - mae'n cymryd cryn gymeriad i arwain plaid wleidyddol yn llwyddiannus.

Hyd yn hyn dwi di sôn am bwysigrwydd arweinydd yn gyffredinol.

Gobeithio fod hynny yn ddigon i argyhoeddi fod pwy sy'n arwain y Blaid yn bwysig - ond efallai yn yr achos yma mae pwy sy'n arwain y Blaid yn bwysig iawn - a hynny am dri rheswm.

1. Mae 'na dasg fawr o flaen yr arweinydd i adfywio'r Blaid. Mae'r broses honno wedi cychwyn gyda'r adolygiad a'r cynnydd sylweddol iawn mewn aelodaeth yn ddiweddar, ond mae gwaith mawr yn fewnol ac yn allanol i wneud i:
* Saernïo neges glir ac apelgar ar ran y Blaid
* Sicrhau fod gan y Blaid strwythurau a dulliau ymgyrchu sy'n addas ar gyfer plaid wleidyddol fodern yn yr unfed ganrif ar hugain
* Ymestyn allan i'r miloedd o gyd-Gymry sy'n hoffi'r Blaid ond ddim eto yn pleidleisio drosti.

O wneud hyn yn llwyddiannus bydd y Blaid yn profi llwyddiant etholiadol - ac yn sgil y llwyddiant hynny daw camau breision ymlaen i Gymru fel ag a welwyd yng nghyfnod Llywodraeth Cymru'n Un. Oes angen ail-adrodd tybed, oni bai am lwyddiant etholiadol Plaid Cymru yn 2007 byddai dim refferendwm wedi digwydd yn 2011 a bydden ni dal yn ymdroelli ym myd yr LCOs bondigrybwyll.

2. Mae'r Blaid yn parhau i weithredu fel rhyw fath o gydwybod genedlaethol i wleidyddiaeth Cymru. Dwn i ddim faint o ffrindiau o bleidiau eraill sydd wedi mynegi barn wrtha' i dros ba ymgeisydd y basen nhw'n pleidleisio ... 'Mae angen arweinydd cryf ar y Blaid - buaswn i'n pleidleisio dros x'. Mae'r x yn newid, er bron yn ddieithriad drosti hi mae fy nghyfeillion yn dweud. Mae hyd yn oed rhai, yn enwedig oddi fewn i'r Blaid Lafur, yn siomedig iawn gyda Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd ac yn awchu am ymosodiad cryf gan y Blaid ar ddiffyg gweithgarwch - er mwyn procio'r llywodraeth i wneud rhywbeth! Sut bynnag mae'r Blaid wedi mabwysiadu'r rôl yma mae angen arweinydd effeithiol i fynd i'r afael gyda herio diffyg gweithgarwch y llywodraeth bresennol.

3. Mae'r Cyfansoddiad yn mynd i fod yn destun pwysig - tan o leiaf 2014 - ac felly mae angen ar y Blaid arweinydd sy'n gallu codi llais clir, deallus ac effeithiol ar faterion cyfansoddiadol. Mae'r drafodaeth honno yn elwa o fewnbwn Plaid Cymru, ac mae cael arweinydd sy'n medru cyfrannu i'r drafodaeth honno ar lefel Prydain gyfan yn hollbwysig.

Felly, does dim amheuaeth gen i fod dewis arweinydd nesaf y Blaid yn ddewis pwysig. Dwi eisoes wedi datgan fy nghefnogaeth i Elin Jones, ond yr hyn sy'n gwneud i mi fod yn optimistig iawn i'r Blaid yw cryfder y maes ar gyfer y frwydr arweinyddol - mae gennym bedwar ymgeisydd a fydd yn gwneud cyfraniad mawr i wleidyddiaeth Cymru dros y ddegawd nesaf - y cwestiwn mawr yw pwy fydd aelodau'r Blaid yn dewis i arwain y tîm hwnnw.

Sunday 22 January 2012

Romney, Gingrich a South Carolina

Cafwyd trydedd ornest etholiad y Gweriniaethwyr yn yr Amerig ddoe i ddewis ei ymgeisydd, ac os unrhyw beth mae'r darlun hyd yn oed yn fwy aneglur yn dilyn buddugoliaeth ysgubol Newt Gingrich. Bellach mae gan y strategwyr Gweriniaethol broblem ddifrifol - mae'r ymgeiswyr ceidwadol yn ennyn brwdfrydedd a chyffro, ond mae pob tystiolaeth yn dangos taw Romney yw'r ymgeisydd fyddai'n fwya' tebygol o guro Obama. Mae rhes o ymgeiswyr eithafol wedi dwyn y penawdau ac ennill cefnogaeth - Bachmann, Cain, Santorum a bellach Gingrich; ond tra eu bod yn apelio i'r Tea Party dyn nhw ddim yn apelio at bleidleiswyr mwy canol y ffordd a fydd yn y pendraw yn penderfynu ai Gweriniaethwr neu Barack Obama fydd yn y Ty Gwyn am y 4 mlynedd nesaf.

Florida fydd y dalaith bwysig nawr - os yw Gingrich yn ennill yn fanno, ac mae lle i gredu y gall, mi fydd yn hynod niweidiol i Romney. O ganlyniad bydd yr elites gweriniaethol yn gorfod ystyried yn ddifrifol iawn sut mae adfer ymgyrch Romney, neu hyd yn oed geisio perswadio ymgeisydd mwy cymeradwy e.e. Bobby Jindal neu coeliwch fe neu beidio Jeb Bush, i gynnig ei enw.

Buddugwr mawr etholiad South Carolina oedd Obama, ac mae'n rhaid bod y Democrats wrth eu bodd gyda'r smonach ar yr ochr weriniaethol.

Ac fel diweddariad bach o'r arbrawf betio, mi wnes i ennill £10.30 yn dilyn buddugoliaeth Gingrich. Roeddwn wedi betio swm bychain ar Gingrich pan oedd yn 3-1, a model FIVETHIRTYEIGHT yn awgrymu fod ganddo tua 40% o gyfle o ennill. Gan obeithio am lwc tebyg yn Florida!

Saturday 21 January 2012

Y Ceidwadwyr a Llandudno

Pan y'ch chi mewn twll mae'n ddoeth peidio palu'n ddyfnach!

Rwy' wedi rhyfeddu'r wythnos hon i weld y Ceidwadwyr yn canslo eu cynhadledd yn Llandudno a hynny cwta bythefnos cyn iddo ddigwydd. Fel un sydd wedi trefnu nifer o gynadleddau gwleidyddol cenedlaethol rwy'n gwybod y gwaith sylweddol iawn sy'n mynd i drefnu'r fath ddigwyddiadau a hynny misoedd lawer cyn iddo ddigwydd. Mae cytundebau i'w cytuno, a'u hyrwyddo, deunyddiau i'w hargraffu, agendau i'w trefnu, gwestai i fwcio ac ati ac ati. Mae cymryd penderfyniad hwyr iawn i ganslo yn rhwym felly o greu colledion i'r Blaid Geidwadol, y mudiadau gwirfoddol niferus sy'n mynychu'r cynadleddau a'r economi leol yn fwy eang. Rwy'n siŵr nad yw ymgeiswyr Cyngor y Ceidwadwyr yn Llandudno yn diolch i'w meistri Ceidwadol am niweidio'r economi leol.

Ond mae elfen fwy rhyfedd byth i'm tyb i, i'r holl beth - sef yr amrywiol esboniadau sydd eisoes wedi eu cynnig. Rhaid cyfaddef nad ydw i'n deall o gwbl y 'broblem' gyda chostau diogelwch. Pan oeddwn yn Brif Weithredwr Plaid Cymru roedd hawl gennyf wneud cais i'r Swyddfa Gartref am gyllid ar gyfer costau diogelwch - diolch i'r drefn ac eithrio ambell brotestiwr digon dymunol roedd cynadleddau’r Blaid yn nodedig am absenoldeb diogelwch trwm. Mae'r drefn i'w gweld yn para gan fod y mater wedi ei godi llynedd yn Nhŷ’r Arglwyddi a bu ymgais hefyd gan aelod o'r cyhoedd i ddarganfod faint a wariwyd gan Heddlu Tayside parthed costau diogelwch cynhadledd y Ceidwadwyr Albanaidd.

Mae'n bur debyg nad yw esboniad swyddogol y Ceidwadwyr felly yn dal dŵr - ac wrth ddatgan manylion sydd ddim yn rhoi'r pictiwr cyfan - mae'r Ceidwadwyr hefyd di torri un o reolau pwysig gwleidyddiaeth - os y'ch chi'n gwneud smonach lwyr o bethau (ac mae pobl yn gwneud o dro i dro), mae'r gwir yn debygol o ddod allan ac felly mae'n llawer gwell nodi'r gwir yn gynnar ac yn glir!

Friday 20 January 2012

Cyfnod Allweddol Etholiad Arweinyddol Plaid Cymru

Mae pethau'n dechrau poethi yn sicr iawn gydag ymgyrch arweinyddol Plaid Cymru. Heddiw mae Dafydd Elis Thomas yn lansio ei wefan ymgyrch a'i gyfeiriad Ebost ymgyrch - arweinyddcynaliadwy@dafyddelisthomas.org, mae Elin Jones yng Nghaernarfon ac yn gwneud datganiad sylweddol parthed polisi economaidd, mae Leanne Wood yn parhau gyda'i thaith o gwmpas y wlad ac mae rhywfaint o sylw yn y wasg i ymgyrch Simon Thomas. Does dim dwywaith fod hyn oll yn newyddion da i'r Blaid. Mae cael sawl ymgeisydd o safon sy'n cyflwyno eu hunain fel darpar arweinwyr i'r Blaid ac i'r wlad yn dangos pa mor eang mae'r talent yn y Blaid.

Bydd y cyfnod nesaf yn allweddol i'm tyb i wrth benderfynu'r canlyniad. Hyd yn hyn, mae'r ymgyrchoedd wedi cael cyfle i ddiffinio eu hunain - mae Elin wedi gosod allan gweledigaeth am Annibyniaeth i Gymru a llwyddiant economaidd yn mynd llaw yn llaw, a pheirianwaith y Blaid yn cael ei ddatblygu i gwrdd â'r her. Mae Leanne wedi saernïo neges o amgylch newid, a Dafydd Elis Thomas yn pwysleisio ei brofiad a'i ymrwymiad cwbl ddiffuant at gynaliadwyedd. Rwy'n siŵr y bydd Simon yn lansio gwefan ymgyrch swyddogol maes o law hefyd. Ond, yn ystod y cyfnod nesaf, bydd yr holi caled yn cychwyn - beth yn union yw agweddau'r ymgeiswyr, pa mor eglur yw eu polisïau, sut fydden nhw'n ymdopi gyda llygaid y cyhoedd, y cyfryngau ac aelodaeth y Blaid yn gwylio pob gair maent yn datgan.

Efallai bydd yr atebion manwl yn sioc i rai - yn enwedig i'r sawl sy'n credu mewn newid sydd heb efallai ei ddiffinio'n llawn eto, ond rwy'n siŵr bydd y broses o graffu yn fanwl ar yr ymgeiswyr a'u polisïau o fudd i'r Blaid, ac o fudd mawr i'r ymgeisydd sy'n fuddugol yn y pendraw.

Rhaid cyfaddef mod i'n mwynhau'r holl broses, yn falch i gefnogi Elin Jones, ac yn gwybod yn iawn fod gennym dîm o ymgeiswyr fydd yn cyfrannu'n helaeth at lwyddiant y Blaid dros y blynyddoedd i ddod.

Tuesday 17 January 2012

Beth yw dyfodol Plaid Cymru?

Mae adolygiad y Blaid bellach wedi ei chyhoeddi ar wefan y Blaid.

Mi roeddwn yn falch iawn i ymuno gydag Eurfyl ap Gwilym a'r tîm yn edrych ar wahanol agweddau o waith y Blaid. I mi mae'n rhaid cyfaddef roedd yr holl broses o feddwl yn ddifrifol am wahanol agweddau o weithgarwch y Blaid yn bwysig tu hwnt - anaml mae rhywun yng nghanol berw gwleidyddiaeth dydd i ddydd yn cael cyfle i gamu nôl a meddwl. Mae'n ymarfer pwysig ac yn gallu taflu goleuni ar amrywiol bethau sydd angen eu gwneud yn wahanol, ac efallai rhai nad sydd angen gwneud o gwbl. Rwy'n mawr obeithio y bydd cyhoeddi'r adroddiad yn gyfle i'r Blaid yn ei chyfanrwydd drafod ac ystyried yr argymhellion a maes o law cytuno ar gynllun pendant i Adeiladu'r Blaid i'r dyfodol.

Mae 'na ddau beth fuaswn i'n cyfeirio atynt yn benodol yn yr adroddiad - mae 'na lwyth o ddeunydd am amrywiol bethau - ond i mi, mae dwy elfen yn sefyll allan.

Yn gyntaf rydym yn argymell creu Academi Hyfforddi Genedlaethol i actifyddion y Blaid. Rwy'n credu y byddai hyn yn gam pwysig iawn ymlaen er mwyn hybu a hyrwyddo arfer gorau wrth ymgyrchu yn gymunedol a datblygu ein gwirfoddolwyr. Mae pob mudiad gwirfoddol llwyddiannus yn delio yn broffesiynol ac effeithiol gyda'i gwirfoddolwyr a does dim rheswm pam na ddylai plaid wleidyddol wneud yr un fath!

Yn ail, allai ddim gor-bwysleisio'r angen i ddatblygu ein dulliau ymgyrchu. Wrth ymwneud gyda'r adolygiad bûm yn trafod y fath o dargedau a osodir gan bleidiau eraill i'w darpar gynghorwyr ac ymgyrchwyr lleol. O ran cyswllt uniongyrchol gydag etholwyr mae'r Blaid ar ei hol hi, ac mae angen trawsffurfio ein dulliau ymgyrchu.

Ond am nawr, gwell tewi, a gweld beth mae aelodau'r Blaid yn ei feddwl am yr adroddiad.

Un nodyn bach wrth derfynu yw na chawsom gyfle i ymwneud yn uniongyrchol a phrosesau dewis ymgeisyddion. Mae hwn yn fater arall rwy'n sicr y bydd angen sylw gan y Blaid dros y cyfnod nesaf os am barhau i ddatblygu.

Monday 16 January 2012

Dyfodol Prydain?

Ydy Cameron wir eisiau cadw'r Deyrnas yn Unedig? Rwy'n holi'r cwestiwn gan fod yr wythnos diwethaf wedi profi rhai o'r datganiadau mwyaf hurt gan Lywodraeth Prydain dwi wedi gweld ers tro byd. Rwy' wedi bwrw golwg manwl ar bol a gyhoeddwyd ddoe gan yougov. Pôl Prydain gyfan ydyw wrth gwrs, ac felly mae angen gofal wrth ymdrin â'r sampl bach yn yr Alban, ond mae'r darlun yn cael ei gadarnhau gan arolwg ICM a gyhoeddwyd ddoe hefyd.

Mae'r gefnogaeth i Annibyniaeth i'r Alban bellach yn agos iawn at gefnogaeth i barhau gyda'r Undeb - yn nhermau ystadegol oddi fewn i'r 'margin of error'. Mae'r wythnos diwethaf wedi profi cynnydd pellach yn y gefnogaeth. Yn fwy eglur mae cefnogaeth sylweddol iawn gan Albanwyr i'r egwyddor mai Senedd yr Alban ddylai benderfynu hyd a lled y refferendwm nid 'Torïaid yn Llundain', fel mae Alex Salmond wedi llwyddo i bortreadu yn ddeheuig ymateb Cameron. Mae'r datganiad mwy diweddar gan David Mundell y byddai Llywodraeth Prydain yn rhwystro Senedd yr Alban rhag defnyddio'r gofrestr etholiadol llawn yn enghraifft glasurol o ddadl dechnegol nad ellir ei gynnal yn foesol hyd yn oed ymysg yr Unoliaethwyr mwya' pybyr.

Yr hyn sy'n amlwg iawn i mi bellach yw os peri'r tueddiadau presennol bydd yr Alban yn pleidleisio o blaid Annibyniaeth yn 2014. Does dim sicrwydd i hynny, mi all yr Unoliaethwyr gael ei act at ei gilydd, ond os na wnawn yna mae diwedd Prydeindod yn agosach nag oeddwn i yn meiddio gobeithio ei fod 12 mis yn ôl.

O'u plaid mae rhyw arwydd diweddar fod rhai o'r Unoliaethwyr mwy hirben yn ceisio rhoi tîm Albanaidd at ei gilydd i ymladd y refferendwm - does dim dwywaith y byddai Alistair Darling, Charlie Kennedy ac Annabel Goldie yn wrthwynebwyr llawer mwy grymus i Alex Salmond na phe bai Cameron, Clegg a Moore yn arwain y frwydr. Ond mae gan yr Unoliaethwyr broblem arall sy'n amlwg o bôl yougov. Mae cysylltiad amlwg iawn rhwng budd economaidd annibyniaeth a bwriadau pleidleisio. Mae mwyafrif bach o Albanwyr yn teimlo y byddai'r Alban yn fwy llwyddiannus yn annibynnol - ond er mwyn gwrthweithio’r ddadl honno mae angen i'r Unoliaethwyr ddatgan yn glir iawn y budd ariannol sylweddol (yn eu tyb hwythau) a ddaw i'r Alban o'r Undeb. Yr anhawster iddynt yw bod arolwg yougov hefyd yn awgrymu fod drwgdeimlad yn barod yn Lloegr am yr arian mae'r Alban yn ei dderbyn o'r trysorlys, a byddai codi proffil hynny yn rhwym o greu mwy o broblemau yn Lloegr.

Dwi'n ddiogel iawn fy meddwl mai Alex Salmond fydd yn mwynhau ei uwd fwyaf bore 'ma o blith holl arweinwyr yr Alban (a Phrydain o ran hynny)!

Sunday 15 January 2012

Oes rhywun yn meddwl yn y Blaid Lafur Gymreig?

Ychydig o wythnosau nol mi roeddwn wedi synnu mymryn i weld 'senior Labour source' yn cael ei ddyfynnu yn awgrymu y byddai Llafur Cymru yn troi'n genedlaetholwyr dros nos pe tai'r Alban yn mynd yn annibynnol. Doeddwn i heb feddwl lawer amdano ar y pryd, er i mi deimlo fod hyn yn ddatganiad od ar sawl wedd.

Yn fwy diweddar mae Carwyn Jones wedi datgan o blaid ail siambr y cenhedloedd i'r Lloegr Fawr (?) fydd ar ôl wedi ymadawiad yr Alban. Fel un sydd wedi credu ers amser y gallai sail genedlaethol fod yn sail yn ail-ffurfio'r Tŷ’r Arglwyddi ers tro byd, rwy'n croesawu awgrymiad y Prif Weinidog. OND, ac mae'n ond fawr, gan mai sail y ddadl yw dominyddiaeth potensial Lloegr o'r greadigaeth newydd - onid dyna sydd gennym eisoes. Mae dros 80% o boblogaeth y Deyrnas Gyfunol yn byw yn Lloegr, ac o Loegr daw dros 80% o gynrychiolwyr Tŷ’r Cyffredin, felly pam nad yw'r ddadl dros ddiwygio'r ail siambr yn cael ei gyflwyno yn y sefyllfa bresennol.

Wedi ystyried hyn, y casgliad dwi'n cyrraedd yw nad yw Llafur yng Nghymru yn meddwl. Nid meddwl tymor byr am fantais wleidyddol ac am sut i gadw grym - mae Llafur yn arbenigo ar hynny, ond cyfeirio ydw i at feddwl tymor hir am ddyfodol y wlad. Rwy'n tybio fod syniad (da) Carwyn Jones yn adlewyrchiad o'r ffaith nad oes gan Lafur yng Nghymru weledigaeth tymor hir am ddatblygiad gwleidyddol ac economaidd Cymru, ac felly yn y gwagle mae 'dod yn genedlaetholwyr dros nos' yn bosib! Siawns na fyddai Cymru, ac yn wir y Blaid Lafur yn elwa pe tai rhai o'r cyfeillion mwyaf abl yn y blaid yn meddwl llai am ddyfodol etholiadol y Blaid Lafur a mwy am ddyfodol y wlad.

Saturday 14 January 2012

Pa mor debygol yw'r ffiniau newydd?

Bore ma wnes i ddarllen blog Glyn Davies am y newidiadau ffiniau ac yn pendroni tybed a welwn ni'r ffiniau newydd yng Nghymru. Mae na ddau beth yn arwain fi i feddwl ei bod hi'n bell o fod yn sicr y gwelwn ni'r ad-drefnu yn dod i rym.

Yn y man cyntaf mae 'na nifer o aelodau seneddol o bob plaid bellach yn poeni am ei dyfodol gwleidyddol. Efallai nad oes gan bob un ohonynt le gwirioneddol i boeni, ond mae'r ansicrwydd yn creu cwestiwn fan lleiaf am yr holl broses. Yr hyn sy'n drawiadol am y newidiadau yw er bod y ffiniau newydd yn creu mwy o gyfleoedd i'r Ceidwadwyr ennill mwyafrif (ar draws Prydain) dyw'r shifft ddim yn enfawr - ac yn y broses mae 'na sawl Ceidwadwr unigol yn gwynebu colli eu bywoliaeth. Felly mae 'na fantais tymor hir bach i'r Ceidwadwyr fel plaid, ond anfantais tymor byr sylweddol i nifer o aelodau seneddol Ceidwadol. Gellir ychwanegu at hynny'r fintai o Ddemocratiaid Rhyddfrydol sy'n debygol o golli eu seddi, a'r Blaid Lafur fydd yn elwa ar unrhyw gyfle i atal y cynlluniau; ac mae'r màths yn dechrau edrych yn giami. Mae'n rhaid wrth bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin wrth gwrs er mwyn i'r cynigion ddod i rym.

Elfen arall yw'r ystyriaeth y gall ffiniau fod yn destun gymharol ddi-boen i aelodau meinciau cefn wrthwynebu'r llywodraeth arno. Mae'n amlwg nad yw aelodau meinciau cefn y Ceidwadwyr na'r Democratiaid Rhyddfrydol wrth eu boddau ar hyn o bryd gydag agenda'r llywodraeth glymblaid yn chwilio am gyfleoedd i fynegi'r anfodlonrwydd hynny, mewn dull nad sy'n tanseilio yn sylfaenol y llywodraeth. Efallai y bydd newid ffiniau yn cynnig yr union gyfle hynny.

Pe bai'n rhaid i mi osod ffigwr felly - dim mwy na 40% buaswn i'n dweud yw'r tebygrwydd y gwelwn ni'r ffiniau newydd yng Nghymru erbyn 2015.

Wednesday 11 January 2012

Ffiniau Etholaeth Newydd

Rwy wedi bwrw golwg sydyn ar ffiniau etholaethol newydd Cymru ac mae'n rhaid dweud yn gyffredinol rwy'n tybio i'r Comisiwn Ffiniau wneud job eitha' da ohoni o fewn y cyfyngderau sydd ganddynt! Rwy'n nodi'r cyfyngderau - oherwydd maent yn gaeth iawn ac felly mae unrhyw un sydd wedi ceisio mynd i'r afael a chreu etholaethau mawr o faint cyfartal yng Nghymru yn gwybod faint o her sydd.

Yn nhermau gwleidyddol etholaethol rwy'n amcanu mai rhywbeth yn debyg i'r canlynol fyddai'r patrwm pe byddwn yn ail rhedeg 2010 ar y ffiniau newydd. Llafur 20-22, Ceidwadwyr 3-5, Democratiaid Rhyddfrydol 2-3, Plaid Cymru 2-3. I'r Blaid mae etholaethau Caerfyrddin a Gwynedd yn gadarn iawn, tra bod Môn/Menai yn edrych yn addawol tu hwnt.

Rwy'n siomi rhywfaint rhaid cyfaddef nad oes sylw priodol wedi ei rhoi i ffiniau cymunedol a chymunedau ieithyddol. Mae 'na gyfle yn sicr wedi ei golli yn y Gogledd Ddwyrain wledig fan hyn. Ac a bod yn blwyfol iawn un o'r seddi sy'n diodde' fwyaf yw Cwm Cynon sy'n cael ei ymrannu'n dair rhan cwbl annaturiol. Onid gwell fan hyn byddai adfer hen sedd Keir Hardie a chreu Cwm Cynon a Chwm Taf, gan symud rhywfaint o wardiau Cwm Rhymni yn ôl i gyfeiriad Caerffili?

Rhaid cyfaddef nad yw'n adnebydd o ardaloedd penodol yn y Gogledd yn arbennig mor gryf â hynny, ac felly pe tai unrhyw un yn dymuno cynnig sylwadau / awgrymiadau amgen mi fuaswn yn falch o'u clywed.

Tuesday 10 January 2012

Ymgyrch Arweinyddol Plaid Cymru

Mae'r ymgyrch arweinyddol wedi dechrau. O'r diwedd, medd rhai, ond rwy'n teimlo fod y misoedd diwethaf di bod yn gyfle da i bawb yn y Blaid ystyried dyfodol a datblygiad y Blaid ac felly ry'n ni mewn sefyllfa tipyn gwell i ddewis arweinydd addas i'r cyfnod nesaf.

Mae dwy erthygl diddorol wedi eu cyhoeddi ar wefan Wales Home yn ddiweddar ar yr arweinyddiaeth. Mae na erthygl rymus gan y Prif Weithredwr, Rhuanedd Richards yn gosod allan y fath o sgiliau arweinyddol sydd eu hangen ar unrhyw arweinydd gwerth chweil. Mae erthygl arall gan Daran Hill yn adlewyrchu'r ffaith fod dewis arweinydd y Blaid yn destun diddordeb i nifer ymhell tu fas i deulu Plaid Cymru.

Mae Daran yn ei erthygl yn nodi bod cychwyn yr ymgyrch di bod yn gredadwy iawn, ac mae hynny yn amlwg yn wir. Ond rwy'n mawr obeithio y bydd ysbryd cadarnhaol yr wythnos neu ddau gyntaf yn treiddio trwy'r holl ymgyrch. Bid siŵr mae 'na wahaniaethau o bwyslais rhwng yr ymgeiswyr, a dwi, fel nifer arall wedi penderfynu yn glir y byddwn yn bwrw ein pleidlais gyntaf dros Elin Jones, ymgeisydd o sylwedd ac argyhoeddiad - ond mae'n rhaid cofio mai rhagymadrodd yw'r etholiad mewnol hwn - rhagymadrodd i etholiadau cyhoeddus niferus dros y blynyddoedd nesaf.

Wedi cyffro'r etholiad mewnol, tasg yr arweinydd newydd bydd creu tîm effeithiol ar ran y Blaid a fydd yn mynd a'n neges am ddyfodol cenedlaethol llewyrchus ac annibynnol i bob cwr o'r wlad. Ac yn y dasg honno, rwy'n mawr obeithio y bydd hi (ac rwy' bellach yn o ffyddiog mai hi fydd yr arweinydd nesaf), yn tynnu ar dalentau a sgiliau bob un o'r ymgeiswyr eraill. Mae gan bob un rhinweddau, a bydd pob un yn gallu gwneud cyfraniad sylweddol at ddatblygiad y Blaid dros y cyfnod nesaf, nid pob un efallai fel capten y tîm, ond mae angen gôl-geidwad da ar bob tîm!

Dwi'n ffodus i gyfrif trefnyddion ymgyrch y tair ymgyrch arall yn ffrindiau - ac o'u nabod dwi'n siŵr y bydden nhw yn rhedeg ymgyrchoedd cadarnhaol gan gadw'n glir mewn cof yr angen i ddefnyddio'r ymgyrch fewnol hon fel cam mawr yn adeiladu tîm y Blaid. Mae cyfrifoldeb hefyd ar gefnogwyr yr ymgeiswyr wedyn i arddel yr un doethineb ac ysbryd cystadleuol cyfeillgar wrth drin a thrafod rhinweddau'r ymgeiswyr - gan mai yn y pendraw tîm cryfaf posib y Blaid sydd angen arnom, a'r arweinydd mwyaf effeithiol i fod yn gapten ar y tîm hwnnw.

Monday 9 January 2012

Dyfodol Mudiad yr Iaith - Blog gan Cynog Dafis

Rwy' wedi derbyn amrywiol sylwadau parthed fy mlog dros y penwythnos am Gymdeithas yr Iaith. Daeth y sylwadau isod ar ffurf Ebost ond rwy'n tybio eu bod yn haeddu cynulleidfa ehangach. Diolch Cynog.


Dyfodol Mudiad yr Iaith

Llongyfarchiadau i Dafydd Trystan ar ei awgymiadau ynghylch dyfodol Cymdeithas yr Iaith. Roedd yn dda gen i glywed am barodrwydd y Gymdeithas i feddwl o’r newydd adeg ei phen blwydd yn hanner cant. Rwy’n gryf o’r farn bod angen i fudiad yr Iaith ei ailddyfeisio’i hun mewn ffordd sy’n berthnasol yn realiti cymdeithasol heddiw.

Dyma stori fach i ddechrau

Yn ddiweddar mi fues yn gwylio sesiwn dystiolaeth gan bwyllgor o’r Cynulliad. Dau dyst rhugl eu Cymraeg o gefndiroedd teulol cadarn eu Cymreictod. Pob hwylustod yn y pwyllgor wrth gwrs i ddefnyddio Cymraeg. Fe agorodd un ei sylwadau yn Gymraeg ac yna ar-yn-eilio rhwng y ddwy iaith – rhyw 40% o Gymraeg efallai erbyn y diwedd. Agorodd yr ail (cyn-swyddog o Gymdeithas yr Iaith, blaenllym ei radicaliaeth ar un adeg) yn Saesneg a throi i Gymraeg ar un adeg wrth ateb cwestiwn Cymraeg gan un A.C.: cyfanswm 90% yn Saesneg ddywedwn i.

Mae storiau tebyg i hon, a’i gwaeth-hi o lawer, yn cael eu hailadrodd y dyddiau hyn hyd at syrffed. A hawliau helaeth i ddefnyddio’r Gymraeg wedi’u hennill, wele gyfle ar ol cyfle gwych i helaethu terfynau teyrnas yr Iaith yn cael eu colli dro ar ol tro. O’u cymryd, byddai momentwm cynyddgar o blaid y Gymraeg yn bosibilrwydd real. O’u colli, difancoll sy o’i blaen-hi. Naill ai gynyddu neu grebachu, dyna’r dewis! A chynyddu ymhobman, nawr, y foment hon, nid rywbryd yn y dyfodol neu rywle draw dros yr enfys yn y ‘cymunedau Cymraeg’ bondeucrybwyll neu ar faes y Brifwyl. Mae angen dim llai na thrawsnewidiad seicolegol ymysg aelodau’r gymuned Gymraeg.

Byddai ailddyfeisio mudiad yr Iaith yn golygu symud y pwyslais fel ganlyn:

• O Hawliau i Hyder, Arddeliad a Balchder
• O Warchod I Dwf, Arloesi a Chreadigedd
• O'r ‘Ardaloedd Cymraeg’ i’r Genedl Gyfan

Ac, o’i roi yn jargon Economeg, o gynyddu’r Cyflenwad i ysgogi’r Galw.

A dyfynnu Saunders Lewis yn anghyflawn ac allan o’i gyd-destun, ‘Nid polisi I unigolion, un yma, un acw, ar siawns mo hyn…Polisi i fudiad yw ef…’

Nid na fydd yna angen o bryd i’w gilydd am bwyso, am fynnu hawliau neu gynyddu’r cyflenwad (mae addysg a’r cyfyrngau yn ddau faes amlwg o berthnasol). Nid na fydd angen o dro i dro am dor-cyfraith. Mae’r symud pwyslais sylfaenol serch hynny yn gwbl angenrheidiol.

A fyn Cymdeithas yr Iaith fynd drwy’r metamorffosis yma? Hynny wrth gwrs fyddai’n ddelfrydol, y dewis gorau o ddigon. Cwestiwn arall yw pa un a oes yn rhywle ddigon o egni ac eiddgarwch i sefydlu mudiad amgen? Gall fod dyfodol y Gymraeg yn dibynnu ar yr atebion i’r cwestiynau hyn.

Cynog Dafis
Ionawr 9 2012


Saturday 7 January 2012

Penblwydd Hapus Cymdeithas yr Iaith

Beth yw pwrpas Cymdeithas yr Iaith yn yr oes ddatganoledig hon?

Mae na gyfres o erthyglau difyr wedi eu cyhoeddi ar wefan Click on Wales yr wythnos hon yn trafod dyfodol y Gymdeithas gan Simon Brooks, Huw Lewis a Menna Machreth.

Mae'n drafodaeth bwysig ac mae nifer o bwyntiau craff yn cael eu cyflwyno. I mi mae gan y Gymdeithas rôl bwysig iawn yn yr oes sydd ohoni yn amddiffyn a datblygu'r Gymraeg. Er mwyn gwneud hyn yn llwyddiannus mae 'na ambell her i'r mudiad. Gai awgrymu yn garedig fel un sydd yn lled ddiweddar wedi ail-ymuno gyda'r Gymdeithas, wedi cyfnod o dros 15 mlynedd ble na fues i’n aelod - ambell sylw?

Fel mudiad mae angen i'r Gymdeithas ddatblygu fel mudiad pwyso sy'n gweddu i'r oes sydd ohoni. Mae hynny i'm tyb i yn golygu adnabod arfer gorau o grwpiau pwyso llwyddiannus (mae 'na nifer yn y meysydd amgylcheddol ac yn fwy diweddar ym maes 'democratiaeth uniongyrchol'). Fan lleiaf mae'n arwain at fudiad sy'n gwneud y defnydd gorau posib o'i gwirfoddolwyr er mwyn asio'u diddordebau gydag ymgyrchoedd y Gymdeithas. Rhyw 20 mlynedd mi roedd Greenpeace yn croesawu aelodau newydd gyda 'bwydlen' o opsiynau ymgyrchol i aelodau newydd - oedd yn cynnwys popeth o foreau coffi masnach deg i ddringo i ben pwerdai! Hyd y gwn i does dim ymdrech systematig gan y Gymdeithas erioed wedi ei wneud i'r perwyl yma. Mae'r mudiad hefyd yn cael ei ddominyddu i raddau helaeth iawn gan ambell aelod sydd wedi gwasanaethu am ddegawdau ar Senedd y Gymdeithas - siawns fod angen plwraliaeth o leisiau er mwyn sicrhau'r twf mwyaf effeithiol i'r mudiad?

Un elfen o'r jigso serch hynny yw cymdeithaseg y Gymdeithas ... I mi mae'r her o sicrhau defnydd eang i'r Gymraeg yn her polisi sylweddol iawn i Lywodraeth Cymru - ond beth sydd gan y Gymdeithas i ddweud am hyn? Y canfyddiad, yn gam neu'n gymwys, yw bod y Gymdeithas yn poeni yn enfawr am ambell ysgol wledig fach iawn sy'n cael ei glystyru, ond eto sydd a nemor ddim i ddweud am y miloedd o blant sy'n cael eu dysgu Cymraeg yn ein hysgolion bob blwyddyn, ond sy'n cyrraedd 16 heb yr hyder (neu'r gallu mewn rhai achosion) i gynnal sgwrs yn Gymraeg. Os am sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r Gymraeg mae'n rhaid wrth sylw i sicrhau defnydd eang o'r iaith.

Maes arall hyd y gwn i nad yw'r Gymdeithas wedi ymwneud a hi mewn ffordd strwythuredig o gwbl yw maes iechyd. A hynny er bod tystiolaeth amlwg iawn ar un llaw fod cyfathrebu gyda chlaf yn ei iaith gyntaf yn gwella'r canlyniadau cliningol, tra ar y llaw arall fod tystiolaeth eang iawn nad yw'r Gymraeg yn flaenoriaeth o gwbl wrth lunio gwasanaethau yn yr NHS.

Man arall y gallai'r Gymdeithas ymwneud a hi yw harnesi technoleg er budd y Gymraeg. Gyda datblygiadau technolegol newydd bob dydd yn dod i'r amlwg, siawns mai brwydr am godau, algorithmau a rhwydweithiau electroneg bydd brwydr y Gymraeg dros y cyfnod nesaf.

Ambell awgrymiad yn unig fan hyn sydd gennyf - ond mae nhw'n bwysig i'm tyb i er mwyn i'r Gymdeithas adeiladu hygrededd fel mudiad sydd a pholisi clir ac amlwg i adfer y Gymraeg a'i datblygu. (Proffil sydd efallai gan mudiadau fel Cyfeillion y Ddaear, Oxfam neu Amnest Rhyngwladol mewn cyddestunau eraill).

Mae hynny yn gadael cwestiwn tor cyfraith heb ei hannerch. I mi, mae medru galw ar dor cyfraith heddychlon yn rhan annatod o bortffolio tactegol mudiad pwyso radicalaidd. Peidied neb a meddwl na fydd angen torri'r gyfraith o bosib dros y Gymraeg yn y blynyddoedd i ddod. Ond, mae hi fel petai'r Gymdeithas wedi camu i tardis Doctor Who o ran tactegau. Yn negawdau olaf y ganrif a fu, efallai y gellid deall y rhesymau tactegol dros dorri mewn i swyddfa a gwneud difrod sylweddol. Ond bellach mae mudiadau fel UK Uncut a mudiadau amgylcheddol fel Greenpeace yn arwain y ffordd gyda phrotestiadau sy'n torri'r gyfraith - ond hynny mewn modd sy'n atgyfnerthu'r achos yn hytrach na'i thanseilio. Mae dringo i ben rig olew mawr a dangos baner enfawr - a hynny oll wedi ei ddarlledu yn fyw ar y we, yn torri'r gyfraith mae'n siŵr - ond mae pwynt yr ymgyrch yn cael ei amlygu gan y weithred; mae peryg i dorri mewn i swyddfa ganol nos a'i rhacso ymddangos yn ddim mwy na fandaliaeth gyffredin. Mae angen felly i'r Gymdeithas bod yn barod i dorri'r Gyfraith - ond wrth wneud i ddefnyddio'r holl egni deallusol a dychmygus sydd ymysg ei haelodaeth ifanc i ddyfeisio dulliau gweithredu sy'n addas i'r unfed ganrif ar hugain ac sy'n atgyfnerthu'r achos.


Rhaid cyfaddef mod i'n eithaf optimistig am y Gymdeithas. O ddatblygu gwedd fwy agored i'r mudiad a mynd i'r afael a rhai o'r heriau mawr sy'n gwynebu'r Gymraeg yn yr unfed ganrif ar hugain rwy'n hyderus y bydd y Gymdeithas yn mwynhau hanner canrif arall o lwyddiant ymgyrchu.

Friday 6 January 2012

Poodle Tony Blair i ddychwelyd i'r Cymoedd

Mae Alun Michael ar ei ffordd yn ôl i Gymru. Does dim dwywaith ei fod yn hyderus o dderbyn enwebiad Llafur i ymladd am swydd Comisiynydd Heddlu De Cymru, ac felly yn bwriadu ymddiswyddo o'r Tŷ Cyffredin wrth iddo gael ei ddewis fel ymgeisydd. Os felly, tybed pa mor ddiddorol bydd yr etholiad am Gomisiynydd. Wel, dwi am fentro awgrymu bydd yn fwy diddorol gyda Michael yn ymgeisydd.

Ar bapur mae 'etholaeth' De Cymru - sef yr hen Forgannwg i bob pwrpas yn diriogaeth ffrwythlon iawn i Lafur, ond mi allai'r ymgeisydd anghywir beri rhywfaint o ddiddordeb rwy'n tybio. Dyw aelodau'r Blaid Lafur ddim yn anghofio ac mae'n sicr nad ydynt oll wedi maddau i Michael am ddigwyddiadau 1998-2000. Mae'n annhebyg fod rhai o'r gweision suful a fu'n gwasanaethu dan ei 'arweiniad' wedi anghofio am 'sgiliau' Mr Michael.

Pa mor bwysig yw hyn? Dwn i ddim, ond mae'n rhaid cofio mai etholiad gan ddefnyddio AV fydd hwn ac felly bydd angen i'r ymgeisydd buddugol ddenu pleidleiswyr ei blaid ei hun, ac ail bleidleisiau gan eraill. Ai Alun Michael yw'r person i wneud hyn? Tybed fydd Pleidwyr (a Democratiaid Rhyddfrydol o ran hynny sy'n ei gofio'n dda o'i amser ar Gyngor Caerdydd) yn fodlon rhoi ail bleidlais iddo?

Yn fwy na hynny, mae'n rhaid cofio fod hon yn etholaeth amrywiol iawn - ac iddi mewn gwirionedd pedair rhan: Caerdydd, Abertawe a'r cyffiniau, y Cymoedd a llain (gweddol gefnog) i'r De o'r M4. Er mwyn ennill bydd Llafur yn dibynnu ar ennill nifer sylweddol o bleidleisiau yn Abertawe a'r Cymoedd. Does dim dwywaith fod hyn yn debygol, ond mae'n bosib hefyd gyda'r cyfuniad cywir o ymgeisydd proffil uchel o Abertawe dyweder - sy'n ymladd i sicrhau nad yw Abertawe a'r Cymoedd yn cael eu hanwybyddu, ac ymgyrch difflach gan Lafur y gallai ddechrau Tachwedd 2012 arwain at sioc etholiadol arall i'r Blaid Lafur wrth law Alun Michael.

Cawn weld wrth gwrs, ond yn sydyn ddigon mae etholiadau'r Comisiynydd Heddlu yn edrych tipyn yn fwy diddorol.

Thursday 5 January 2012

Gwylio'r Gweriniaethwyr

Faint o bobl a fu'n aros am arolwg y Des Moines Register ar Nos Galan? Siawns nad oedd miloedd yma yng Nghymru, ond rhaid cyfaddef mod i wedi dilyn a diddordeb mawr batrwm 'Cawcws Iowa' y Gweriniaethwyr. Mi wnes i hynny ar un wedd gan fod gennyf ddiddordeb oes mewn gwleidyddiaeth, ac mae gwleidyddiaeth ymgyrchol yr Amerig yn hynod o ddiddorol. Mi wariodd Mitt Romney er enghraifft $5 miliwn o ddoleri yn cipio ei 30,000 o bleidleisiau yn Iowa - a hynny er mwyn ceisio sicrhau enwebiad ei blaid ei hun - bydd gwariant yn yr etholiad Arlywyddol gymaint â hynny yn fwy. (Mae'n werth ystyried nad yw'r etholaeth weriniaethol yn Iowa fawr yn fwy o ran maint na rhai o ardaloedd etholiadol a welir ym Mhrydain - mae'n beth da iawn i'm tyb i na welwn unrhyw blaid yn gwario miliynau yn ceisio cipio Cyngor RCT er enghraifft!)

Mi roedd etholiad Iowa yn un hynod ddiddorol, a hynny oherwydd tan yn llythrennol y funud olaf doedd hi ddim yn amlwg pwy fyddai'n ennill. I'r sawl ohonoch wnaeth fethu'r canlyniad Romney a orfu gyda mwyafrif o 8 pleidlais yn unig, Santorum oedd ar y blaen tan i'r ffigyrau o'r blwch pleidleisio olaf gyrraedd oedd yn rhoi mantais o 14 o bleidleisiau o blaid Romney.

Ond roedd gennyf ddiddordeb pellach yn y canlyniad hefyd, oherwydd i mi geisio cynnal rhywfath o arbrawf bach mewn betio gwleidyddol. Mi roedd gennyf ryw £50 dros ben wedi betio ar etholiadau'r Cynulliad (rhyw £10 y tro byddai'n mentro ar etholiadau, a byth mwy na £50 mewn unrhyw flwyddyn), ac felly dyma osod prawf ar fodel rhagolwg y wefan gampus Five Thirty Eight. Daeth y wefan i'r amlwg yn yr etholiad arlywyddol diwethaf ac mae'r cyflwyniadau ystadegol yn hynod ddadlennol i'r rhai ohonom sydd â diddordeb mawr yn y pethau hyn. Mae'r wefan yn cyfrifo tebygolrwydd ennill i unrhyw ymgeisydd yn seiliedig ar fodel soffistigedig o'r holl arolygon sydd wedi digwydd sy'n berthnasol i'r etholiad.

Wrth graffu yn rheolaidd ar y canrannau dyma sylwi nad oedd odds y bwci - betfair yn yr achos yma - ar bob adeg yn adlewyrchu'r tebygolrwydd. Felly dyma gyflwyno rhywfaint o arian (o'r gronfa £50) bob tro roedd gwahaniaeth sylweddol rhwng y bwci a 538. Erbyn diwedd yr etholiad, gan fod modd betio o blaid ymgeisydd yn ennill a/neu golli ar betfair, roeddwn ar dir i ennill £8 os mai Santorum fyddai'n ennill, £6 pe byddai Paul yn ennill, a pheidio colli dim pe tai unrhyw ymgeisydd arall yn ennill. Canlyniad yr arbrawf betio mawr felly oedd sefyllfa gwbl niwtral, a hynny ar sail 8 pleidlais wnaeth f'amddifadu o £8! Gwaetha'r modd gan fod Romney wedi cipio Iowa mae'n annhebyg bydd taleithiau'r dyfodol yn cynnig cymaint o ddiddordeb ond mi gadwaf olwg ar y tebygolrwyddau er mwyn gweld os oes cyfle i ail-gydio yn yr arbrawf mawr, gan obeithio efallai ennill ychydig o bunnoedd y tro hwn.

Monday 2 January 2012

Faint o drethi sy'n cael eu codi yng Nghymru?

Tybed ydy'r cyfnod o addunedau blwyddyn newydd wedi dod i ben. Efallai ddim, ac felly dwi am fentro cynnig adduned posib i'r byd gwleidyddol yng Nghymru.

Dros yr ychydig flynyddoedd diweddar rwy' wedi dilyn esiampl glodwiw Eurfyl ap Gwilym a'r diweddar Phil Williams yn gwneud rhywfaint o waith yn amcangyfrif iechyd y 'Trysorlys Cymreig'. Nawr wrth gwrs mae'r 'Trysorlys Cymreig' yn adeiladwaith dadansoddol ar hyn o bryd. Y bwriad yw ceisio ble bynnag bo hynny yn bosib amcangyfrif faint o arian cyhoeddus sy'n cael ei wario yng Nghymru a faint o drethi sy'n cael eu codi.

Mae sawl peth yn dod i'r amlwg o'r fath ymarferiad sydd o'i hanfod yn (lled) amaturaidd.

Yn y man cyntaf mae hi dipyn yn haws amcangyfrif faint o arian sy'n cael ei wario yng Nghymru nag yw hi i gael ffigyrau cywir (neu hyd yn oed lled gywir) am faint o drethi sy'n cael eu codi. Byddai datblygu prosesau gwybodaeth Cyllid y Wlad i sicrhau fod y wybodaeth yma yn fwy cywir yn gam pwysig ymlaen er mwyn hybu cyfrifoldeb gwleidyddion Cymru. I mi mae'n sefyllfa gwbl hurt nad yw cyllideb Llywodraeth Cymru yn ddibynnol (o leiaf i raddau) ar lwyddiant economaidd Cymru. Rwy'n ystyried fod y diffyg cysylltiad yma yn un rheswm pam y mae llywodraethau dilynol heb ffocysu yn un swydd ar ddatblygu economi Cymru. Gellir dadlau hefyd wrth gwrs fod diffyg arfau polisi economaidd (megis yr hawl i amrywio treth gorfforaethol) hefyd yn amharu yn sylweddol ar allu ein llywodraeth i ffocysu yn un swydd ar ddatblygu'r economi. Rwy'n mawr obeithio y bydd Comisiwn Silk yn mynd i'r afael a rhai o'r materion hyn dros y misoedd nesaf.

Ond i'm tyb i, mae'r amrywiol ffigyrau hefyd yn dangos fod problem strwythurol gydag economi Cymru - sef fod sefyllfa'r 'Trysorlys Cymreig' yn wannach na 'Thrysorlys Prydain' - a dyw hynny ddim yn arbennig o gryf ar hyn o bryd beth bynnag! Mae hyn efallai yn anorfod ar hyn o bryd - rydym yn gwybod yn iawn am broblemau economaidd Cymru a'n 'llwyddiant' yn ôl y Blaid Lafur i sicrhau arian Amcan Un. Ond, tybed a ddylai pawb sydd ynghlwm a gwleidyddiaeth Cymru troi eu golygon at sefyllfa'r 'Trysorlys Cymreig' oherwydd oni bai fod economi Cymru yn ffynnu ac yn datblygu yna byddwn yn gwynebu degawdau o dlodi cymharol. I'm tyb i ddylai Llywodraeth Cymru bob blwyddyn cyhoeddi ffigyrau cyflawn ar gyfer Gwario a Threthi yng Nghymru, a gosod fel nod tymor canolig yr amcan o ddileu'r diffyg strwythurol (structural deficit) yng Nghyllid y Wlad (a'r wlad honno yw Cymru wrth gwrs).

Sunday 1 January 2012

Addunedau Blwyddyn Newydd

Beth sydd i'w gwneud yn y flwyddyn newydd?

Mi fum yn trafod gyda hen ffrind (wrth drydar fel sy'n arferol mae'n debyg yn yr oes sydd ohoni) a ddylid cyhoeddi addunedau blwyddyn newydd neu beidio. Ei farn yntau oedd gan y byddwn yn sicr o'u torri yn fuan, nad oedd unrhyw werth mewn datgan methiant yn fwy eang ... Mae'n rhaid mod i mewn hwyliau mwy optimistaidd gan mod i'n mentro awgrymu ambell adduned bach i mi fy hun fan hyn!

Un o'r addunedau cyntaf i'w gwneud a'u torri yw i ymarfer mwy ... Rwy'n ffodus iawn mod i wedi darganfod criw o bobl yng Nghaerdydd ac yng Nghwm Cynon sydd ymysg y cyfeillion ymarfer gorau - digon o annogaeth i wella, ond digon o gydymdeimlad os nad oes gymaint o egni ... Mae Outdoor Fitness sy'n rhedeg dosbarthiadau yng Nghaerdydd, Caerffili, Pontypridd ac yn Aberdar yn ystod yr Haf yn wych! Os oes unrhyw un awydd gwella ffitrwydd a chael tipyn o hwyl yn y broses allai argymell rhain yn gryf iawn. Yn yr un modd mae Clwb Rhedeg y 'Dragons' yn Abercwmboi yn griw campus o redwyr cyfeillgar iawn - mae nhw'n cwrdd am 6 bob nos Iau, ac mae amrywiol sesiynau eraill yn ystod yr wythnos. Mae manylion am y Dragons i'w canfod ar Facebook neu gallwch daro draw i'r Clwb Rygbi rhyw nos Iau.

Yr adduned gyntaf yw felly yw hyfforddi bob diwrnod ym mis Ionawr fel rhyw fath o 'kick start' i flwyddyn o hwyl. Mae ffrind arall eisoes di awgrymu hashtag, ond gan fod yntau eisoes yn gwneud 100 diwrnod o redeg dwi ddim cweit mor uchelgeisiol a hynny.

Yr ail adduned yw i drio yoga am y tro cyntaf. Rwy'n hoff o redeg, ond prin iawn gyda'r amynedd i ymestyn y cyhyrau yn iawn wedi rhedeg, felly yoga amdani - am wythnos neu ddau beth bynnag. Bydd rhai ffrindiau yn amau a allaf aros yn fy unfan am awr neu ddwy - ond cawn weld.

A'r trydydd adduned yw i flogio'n rheolaidd yn Gymraeg. Fel wnes i awgrymu ddoe rwy'n teimlo'n gryf iawn fod angen defnydd sylweddol ar y Gymraeg ym mhob rhan o fywyd cyhoeddus a phreifat y genedl os yw hi am ail-sefydlu ei hun fel iaith wirioneddol genedlaethol. Peth bach iawn yw cadw blog o ystyried maint yr her, ond petai pawb sy'n siarad Cymraeg yn gwneud rhywbeth, rwy'n siwr y byddai pethau'n gwella.

Digon i mi yn fan'no - efallai y gwnai droi fy meddwl at sgwennu addunedau i bobl eraill yfory. Unrhyw awgrymiadau?