Mae pethau'n dechrau poethi yn sicr iawn gydag ymgyrch arweinyddol Plaid Cymru. Heddiw mae Dafydd Elis Thomas yn lansio ei wefan ymgyrch a'i gyfeiriad Ebost ymgyrch - arweinyddcynaliadwy@dafyddelisthomas.org, mae Elin Jones yng Nghaernarfon ac yn gwneud datganiad sylweddol parthed polisi economaidd, mae Leanne Wood yn parhau gyda'i thaith o gwmpas y wlad ac mae rhywfaint o sylw yn y wasg i ymgyrch Simon Thomas. Does dim dwywaith fod hyn oll yn newyddion da i'r Blaid. Mae cael sawl ymgeisydd o safon sy'n cyflwyno eu hunain fel darpar arweinwyr i'r Blaid ac i'r wlad yn dangos pa mor eang mae'r talent yn y Blaid.
Bydd y cyfnod nesaf yn allweddol i'm tyb i wrth benderfynu'r canlyniad. Hyd yn hyn, mae'r ymgyrchoedd wedi cael cyfle i ddiffinio eu hunain - mae Elin wedi gosod allan gweledigaeth am Annibyniaeth i Gymru a llwyddiant economaidd yn mynd llaw yn llaw, a pheirianwaith y Blaid yn cael ei ddatblygu i gwrdd â'r her. Mae Leanne wedi saernïo neges o amgylch newid, a Dafydd Elis Thomas yn pwysleisio ei brofiad a'i ymrwymiad cwbl ddiffuant at gynaliadwyedd. Rwy'n siŵr y bydd Simon yn lansio gwefan ymgyrch swyddogol maes o law hefyd. Ond, yn ystod y cyfnod nesaf, bydd yr holi caled yn cychwyn - beth yn union yw agweddau'r ymgeiswyr, pa mor eglur yw eu polisïau, sut fydden nhw'n ymdopi gyda llygaid y cyhoedd, y cyfryngau ac aelodaeth y Blaid yn gwylio pob gair maent yn datgan.
Efallai bydd yr atebion manwl yn sioc i rai - yn enwedig i'r sawl sy'n credu mewn newid sydd heb efallai ei ddiffinio'n llawn eto, ond rwy'n siŵr bydd y broses o graffu yn fanwl ar yr ymgeiswyr a'u polisïau o fudd i'r Blaid, ac o fudd mawr i'r ymgeisydd sy'n fuddugol yn y pendraw.
Rhaid cyfaddef mod i'n mwynhau'r holl broses, yn falch i gefnogi Elin Jones, ac yn gwybod yn iawn fod gennym dîm o ymgeiswyr fydd yn cyfrannu'n helaeth at lwyddiant y Blaid dros y blynyddoedd i ddod.
No comments:
Post a Comment