Saturday 28 January 2012

Pa mor bwysig yw arweinydd y Blaid genedlaethol?

Oes ots pwy'n sy'n ennill ras arweinyddol Plaid Cymru? oedd y cwestiwn holwyd gan fy nghyfaill Lee Waters y bore 'ma wrth drydar. Fel arfer, gyda chwestiynau Lee, mae'n gwestiwn da.

Y peth cyntaf i ddweud yw bod arweinwyr yn bwysig. Yn yr oes sydd ohoni mae pobl yn edrych ar arweinwyr y pleidiau ac mae hynny yn cael effaith mawr ar sut maen nhw'n meddwl am y blaid. Meddyliwch am Gordon Brown neu Alec Salmond am eiliad ac mae pwysigrwydd arweinyddiaeth yn dod i'r amlwg. Mae dawn cyfathrebu arweinydd yn rhan annatod o'r darlun.

Mae delwedd yr arweinydd yn un ffactor, ond mae sut mae'r arweinydd yn arwain ei b/phlaid hefyd yn bwysig iawn. Meddyliwch am sut oedd Tony Blair yn treulio nifer o oriau bob wythnos ar faterion Blaid Lafur. Meddyliwch am sut mae Salmond wedi rhoi undod a phwrpas i weithgareddau'r SNP - yn fewnol yn ogystal ag yn allanol.

Mae arweinwyr llwyddiannus hefyd yn tynnu tîm y blaid at ei gilydd. Mae gan bob plaid cymeriadau, ac mae gwleidyddiaeth yn tueddu o ddenu nifer o bobl dalentog (sydd hefyd yn gwybod eu bod yn dalentog - mae 'na ambell ego mawr ym mhob plaid!) - mae'n cymryd cryn gymeriad i arwain plaid wleidyddol yn llwyddiannus.

Hyd yn hyn dwi di sôn am bwysigrwydd arweinydd yn gyffredinol.

Gobeithio fod hynny yn ddigon i argyhoeddi fod pwy sy'n arwain y Blaid yn bwysig - ond efallai yn yr achos yma mae pwy sy'n arwain y Blaid yn bwysig iawn - a hynny am dri rheswm.

1. Mae 'na dasg fawr o flaen yr arweinydd i adfywio'r Blaid. Mae'r broses honno wedi cychwyn gyda'r adolygiad a'r cynnydd sylweddol iawn mewn aelodaeth yn ddiweddar, ond mae gwaith mawr yn fewnol ac yn allanol i wneud i:
* Saernïo neges glir ac apelgar ar ran y Blaid
* Sicrhau fod gan y Blaid strwythurau a dulliau ymgyrchu sy'n addas ar gyfer plaid wleidyddol fodern yn yr unfed ganrif ar hugain
* Ymestyn allan i'r miloedd o gyd-Gymry sy'n hoffi'r Blaid ond ddim eto yn pleidleisio drosti.

O wneud hyn yn llwyddiannus bydd y Blaid yn profi llwyddiant etholiadol - ac yn sgil y llwyddiant hynny daw camau breision ymlaen i Gymru fel ag a welwyd yng nghyfnod Llywodraeth Cymru'n Un. Oes angen ail-adrodd tybed, oni bai am lwyddiant etholiadol Plaid Cymru yn 2007 byddai dim refferendwm wedi digwydd yn 2011 a bydden ni dal yn ymdroelli ym myd yr LCOs bondigrybwyll.

2. Mae'r Blaid yn parhau i weithredu fel rhyw fath o gydwybod genedlaethol i wleidyddiaeth Cymru. Dwn i ddim faint o ffrindiau o bleidiau eraill sydd wedi mynegi barn wrtha' i dros ba ymgeisydd y basen nhw'n pleidleisio ... 'Mae angen arweinydd cryf ar y Blaid - buaswn i'n pleidleisio dros x'. Mae'r x yn newid, er bron yn ddieithriad drosti hi mae fy nghyfeillion yn dweud. Mae hyd yn oed rhai, yn enwedig oddi fewn i'r Blaid Lafur, yn siomedig iawn gyda Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd ac yn awchu am ymosodiad cryf gan y Blaid ar ddiffyg gweithgarwch - er mwyn procio'r llywodraeth i wneud rhywbeth! Sut bynnag mae'r Blaid wedi mabwysiadu'r rôl yma mae angen arweinydd effeithiol i fynd i'r afael gyda herio diffyg gweithgarwch y llywodraeth bresennol.

3. Mae'r Cyfansoddiad yn mynd i fod yn destun pwysig - tan o leiaf 2014 - ac felly mae angen ar y Blaid arweinydd sy'n gallu codi llais clir, deallus ac effeithiol ar faterion cyfansoddiadol. Mae'r drafodaeth honno yn elwa o fewnbwn Plaid Cymru, ac mae cael arweinydd sy'n medru cyfrannu i'r drafodaeth honno ar lefel Prydain gyfan yn hollbwysig.

Felly, does dim amheuaeth gen i fod dewis arweinydd nesaf y Blaid yn ddewis pwysig. Dwi eisoes wedi datgan fy nghefnogaeth i Elin Jones, ond yr hyn sy'n gwneud i mi fod yn optimistig iawn i'r Blaid yw cryfder y maes ar gyfer y frwydr arweinyddol - mae gennym bedwar ymgeisydd a fydd yn gwneud cyfraniad mawr i wleidyddiaeth Cymru dros y ddegawd nesaf - y cwestiwn mawr yw pwy fydd aelodau'r Blaid yn dewis i arwain y tîm hwnnw.

No comments: