Monday 9 January 2012

Dyfodol Mudiad yr Iaith - Blog gan Cynog Dafis

Rwy' wedi derbyn amrywiol sylwadau parthed fy mlog dros y penwythnos am Gymdeithas yr Iaith. Daeth y sylwadau isod ar ffurf Ebost ond rwy'n tybio eu bod yn haeddu cynulleidfa ehangach. Diolch Cynog.


Dyfodol Mudiad yr Iaith

Llongyfarchiadau i Dafydd Trystan ar ei awgymiadau ynghylch dyfodol Cymdeithas yr Iaith. Roedd yn dda gen i glywed am barodrwydd y Gymdeithas i feddwl o’r newydd adeg ei phen blwydd yn hanner cant. Rwy’n gryf o’r farn bod angen i fudiad yr Iaith ei ailddyfeisio’i hun mewn ffordd sy’n berthnasol yn realiti cymdeithasol heddiw.

Dyma stori fach i ddechrau

Yn ddiweddar mi fues yn gwylio sesiwn dystiolaeth gan bwyllgor o’r Cynulliad. Dau dyst rhugl eu Cymraeg o gefndiroedd teulol cadarn eu Cymreictod. Pob hwylustod yn y pwyllgor wrth gwrs i ddefnyddio Cymraeg. Fe agorodd un ei sylwadau yn Gymraeg ac yna ar-yn-eilio rhwng y ddwy iaith – rhyw 40% o Gymraeg efallai erbyn y diwedd. Agorodd yr ail (cyn-swyddog o Gymdeithas yr Iaith, blaenllym ei radicaliaeth ar un adeg) yn Saesneg a throi i Gymraeg ar un adeg wrth ateb cwestiwn Cymraeg gan un A.C.: cyfanswm 90% yn Saesneg ddywedwn i.

Mae storiau tebyg i hon, a’i gwaeth-hi o lawer, yn cael eu hailadrodd y dyddiau hyn hyd at syrffed. A hawliau helaeth i ddefnyddio’r Gymraeg wedi’u hennill, wele gyfle ar ol cyfle gwych i helaethu terfynau teyrnas yr Iaith yn cael eu colli dro ar ol tro. O’u cymryd, byddai momentwm cynyddgar o blaid y Gymraeg yn bosibilrwydd real. O’u colli, difancoll sy o’i blaen-hi. Naill ai gynyddu neu grebachu, dyna’r dewis! A chynyddu ymhobman, nawr, y foment hon, nid rywbryd yn y dyfodol neu rywle draw dros yr enfys yn y ‘cymunedau Cymraeg’ bondeucrybwyll neu ar faes y Brifwyl. Mae angen dim llai na thrawsnewidiad seicolegol ymysg aelodau’r gymuned Gymraeg.

Byddai ailddyfeisio mudiad yr Iaith yn golygu symud y pwyslais fel ganlyn:

• O Hawliau i Hyder, Arddeliad a Balchder
• O Warchod I Dwf, Arloesi a Chreadigedd
• O'r ‘Ardaloedd Cymraeg’ i’r Genedl Gyfan

Ac, o’i roi yn jargon Economeg, o gynyddu’r Cyflenwad i ysgogi’r Galw.

A dyfynnu Saunders Lewis yn anghyflawn ac allan o’i gyd-destun, ‘Nid polisi I unigolion, un yma, un acw, ar siawns mo hyn…Polisi i fudiad yw ef…’

Nid na fydd yna angen o bryd i’w gilydd am bwyso, am fynnu hawliau neu gynyddu’r cyflenwad (mae addysg a’r cyfyrngau yn ddau faes amlwg o berthnasol). Nid na fydd angen o dro i dro am dor-cyfraith. Mae’r symud pwyslais sylfaenol serch hynny yn gwbl angenrheidiol.

A fyn Cymdeithas yr Iaith fynd drwy’r metamorffosis yma? Hynny wrth gwrs fyddai’n ddelfrydol, y dewis gorau o ddigon. Cwestiwn arall yw pa un a oes yn rhywle ddigon o egni ac eiddgarwch i sefydlu mudiad amgen? Gall fod dyfodol y Gymraeg yn dibynnu ar yr atebion i’r cwestiynau hyn.

Cynog Dafis
Ionawr 9 2012


No comments: