Saturday 7 January 2012

Penblwydd Hapus Cymdeithas yr Iaith

Beth yw pwrpas Cymdeithas yr Iaith yn yr oes ddatganoledig hon?

Mae na gyfres o erthyglau difyr wedi eu cyhoeddi ar wefan Click on Wales yr wythnos hon yn trafod dyfodol y Gymdeithas gan Simon Brooks, Huw Lewis a Menna Machreth.

Mae'n drafodaeth bwysig ac mae nifer o bwyntiau craff yn cael eu cyflwyno. I mi mae gan y Gymdeithas rôl bwysig iawn yn yr oes sydd ohoni yn amddiffyn a datblygu'r Gymraeg. Er mwyn gwneud hyn yn llwyddiannus mae 'na ambell her i'r mudiad. Gai awgrymu yn garedig fel un sydd yn lled ddiweddar wedi ail-ymuno gyda'r Gymdeithas, wedi cyfnod o dros 15 mlynedd ble na fues i’n aelod - ambell sylw?

Fel mudiad mae angen i'r Gymdeithas ddatblygu fel mudiad pwyso sy'n gweddu i'r oes sydd ohoni. Mae hynny i'm tyb i yn golygu adnabod arfer gorau o grwpiau pwyso llwyddiannus (mae 'na nifer yn y meysydd amgylcheddol ac yn fwy diweddar ym maes 'democratiaeth uniongyrchol'). Fan lleiaf mae'n arwain at fudiad sy'n gwneud y defnydd gorau posib o'i gwirfoddolwyr er mwyn asio'u diddordebau gydag ymgyrchoedd y Gymdeithas. Rhyw 20 mlynedd mi roedd Greenpeace yn croesawu aelodau newydd gyda 'bwydlen' o opsiynau ymgyrchol i aelodau newydd - oedd yn cynnwys popeth o foreau coffi masnach deg i ddringo i ben pwerdai! Hyd y gwn i does dim ymdrech systematig gan y Gymdeithas erioed wedi ei wneud i'r perwyl yma. Mae'r mudiad hefyd yn cael ei ddominyddu i raddau helaeth iawn gan ambell aelod sydd wedi gwasanaethu am ddegawdau ar Senedd y Gymdeithas - siawns fod angen plwraliaeth o leisiau er mwyn sicrhau'r twf mwyaf effeithiol i'r mudiad?

Un elfen o'r jigso serch hynny yw cymdeithaseg y Gymdeithas ... I mi mae'r her o sicrhau defnydd eang i'r Gymraeg yn her polisi sylweddol iawn i Lywodraeth Cymru - ond beth sydd gan y Gymdeithas i ddweud am hyn? Y canfyddiad, yn gam neu'n gymwys, yw bod y Gymdeithas yn poeni yn enfawr am ambell ysgol wledig fach iawn sy'n cael ei glystyru, ond eto sydd a nemor ddim i ddweud am y miloedd o blant sy'n cael eu dysgu Cymraeg yn ein hysgolion bob blwyddyn, ond sy'n cyrraedd 16 heb yr hyder (neu'r gallu mewn rhai achosion) i gynnal sgwrs yn Gymraeg. Os am sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r Gymraeg mae'n rhaid wrth sylw i sicrhau defnydd eang o'r iaith.

Maes arall hyd y gwn i nad yw'r Gymdeithas wedi ymwneud a hi mewn ffordd strwythuredig o gwbl yw maes iechyd. A hynny er bod tystiolaeth amlwg iawn ar un llaw fod cyfathrebu gyda chlaf yn ei iaith gyntaf yn gwella'r canlyniadau cliningol, tra ar y llaw arall fod tystiolaeth eang iawn nad yw'r Gymraeg yn flaenoriaeth o gwbl wrth lunio gwasanaethau yn yr NHS.

Man arall y gallai'r Gymdeithas ymwneud a hi yw harnesi technoleg er budd y Gymraeg. Gyda datblygiadau technolegol newydd bob dydd yn dod i'r amlwg, siawns mai brwydr am godau, algorithmau a rhwydweithiau electroneg bydd brwydr y Gymraeg dros y cyfnod nesaf.

Ambell awgrymiad yn unig fan hyn sydd gennyf - ond mae nhw'n bwysig i'm tyb i er mwyn i'r Gymdeithas adeiladu hygrededd fel mudiad sydd a pholisi clir ac amlwg i adfer y Gymraeg a'i datblygu. (Proffil sydd efallai gan mudiadau fel Cyfeillion y Ddaear, Oxfam neu Amnest Rhyngwladol mewn cyddestunau eraill).

Mae hynny yn gadael cwestiwn tor cyfraith heb ei hannerch. I mi, mae medru galw ar dor cyfraith heddychlon yn rhan annatod o bortffolio tactegol mudiad pwyso radicalaidd. Peidied neb a meddwl na fydd angen torri'r gyfraith o bosib dros y Gymraeg yn y blynyddoedd i ddod. Ond, mae hi fel petai'r Gymdeithas wedi camu i tardis Doctor Who o ran tactegau. Yn negawdau olaf y ganrif a fu, efallai y gellid deall y rhesymau tactegol dros dorri mewn i swyddfa a gwneud difrod sylweddol. Ond bellach mae mudiadau fel UK Uncut a mudiadau amgylcheddol fel Greenpeace yn arwain y ffordd gyda phrotestiadau sy'n torri'r gyfraith - ond hynny mewn modd sy'n atgyfnerthu'r achos yn hytrach na'i thanseilio. Mae dringo i ben rig olew mawr a dangos baner enfawr - a hynny oll wedi ei ddarlledu yn fyw ar y we, yn torri'r gyfraith mae'n siŵr - ond mae pwynt yr ymgyrch yn cael ei amlygu gan y weithred; mae peryg i dorri mewn i swyddfa ganol nos a'i rhacso ymddangos yn ddim mwy na fandaliaeth gyffredin. Mae angen felly i'r Gymdeithas bod yn barod i dorri'r Gyfraith - ond wrth wneud i ddefnyddio'r holl egni deallusol a dychmygus sydd ymysg ei haelodaeth ifanc i ddyfeisio dulliau gweithredu sy'n addas i'r unfed ganrif ar hugain ac sy'n atgyfnerthu'r achos.


Rhaid cyfaddef mod i'n eithaf optimistig am y Gymdeithas. O ddatblygu gwedd fwy agored i'r mudiad a mynd i'r afael a rhai o'r heriau mawr sy'n gwynebu'r Gymraeg yn yr unfed ganrif ar hugain rwy'n hyderus y bydd y Gymdeithas yn mwynhau hanner canrif arall o lwyddiant ymgyrchu.

No comments: