Saturday 31 December 2011

Y Cyfrifiad, y Gymraeg a'r Gymdeithas

Pa mor wael fydd canlyniadau cyfrifiad 2011?

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan dros y dyddiau diwethaf y bydd canlyniadau'r cyfrifiad yn tanlinellu argyfwng cymunedau Cymraeg. Rhaid cyfaddef mod i'n poeni'n ddirfawr am ddyfodol y Gymraeg, ond ar dir mymryn yn wahanol i'r Gymdeithas.

Cwestiynau digon amrwd sy'n sail i'r cyfrifiad ac felly fe welwyd yn ddiweddar cynnydd sylweddol iawn ymysg y plant yn y De Ddwyrain er enghraifft sy'n 'siarad' Cymraeg. Does dim dwywaith fod elfen o hyn ynghlwm a thwf addysg Gymraeg, ond mae elfen arall sy'n deillio o'r datblygiadau yn addysg cyfrwng Saesneg i ddysgu rhywfaint o'r Gymraeg. Rwy'n tybio y bydd y patrwm yma yn parhau ac efallai y gwelwn gynnydd pellach wrth gyhoeddi'r ffigyrau. Ond mae peryg i'm tyb i hynny celu dirywiad pellach a sylweddol yn y nifer o bobl sy'n rhugl ac yn hyderus wrth siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg.

Efallai mai fi sy'n eithriad, ond dros y flwyddyn neu ddau ddiwethaf, rwy' wedi cwrdd â nifer o gyfeillion sydd er eu bod yn siarad Cymraeg, yn naturiol ac yn fwy cyffyrddus yn siarad Saesneg. Os yw'r Gymraeg gwirioneddol i ffynnu fel iaith gymunedol ar draws Cymru yna mae'n rhaid i'r patrwm hynny newid - a cham cyntaf mae'n siŵr i'r cyfeiriad hynny yw cywain gwybodaeth ddibynadwy am ystod sgiliau ieithyddol y boblogaeth. Byddai modd wedyn datblygu hyder a gallu'r sawl sy'n medru'r Gymraeg ond ddim yn ei siarad drwy weithgarwch penodol. Byddai'r fath strategaeth yn fodd o osod seiliau cynaliadwy ar gyfer y Gymraeg i'r dyfodol, a hefyd mynd i'r afael gyda'r angen am wreiddio'r Gymraeg fel iaith gymunedol mewn ardaloedd traddodiadol Gymraeg sy'n profi mewnlifiad sylweddol ar hyn o bryd.

Friday 30 December 2011

Hyder Economaidd

Mi roedd un o'm darlithwyr mewn economeg wleidyddol yn arfer cychwyn cwrs o ddarlithoedd drwy losgi papur pum punt. Roedd hynny yn anorfod yn creu rhywfaint o gyffro yn y dosbarth - ond roedd ei bwynt yn un rymus - am bwysigrwydd ein cyd-ddealltwriaeth (a'n hyder) mewn elfennau o'r sustem economaidd. Dros y flwyddyn a mwy diwethaf rwy'n teimlo nad yw Llywodraeth Prydain yn benodol wedi mynd ati i gynnal hyder economaidd mewn cyfnod anodd. Mae'r naratif o doriadau angenrheidiol a thrafferthion dybryd yn rhwym o effeithio ar hyder economaidd ymysg y cyhoedd.

Dwi ddim am eiliad yn awgrymu nad oes problemau o ran gwariant cyhoeddus yn ein gwynebu, ond mae'r pwyslais ar doriadau wedi creu mwy o ansicrwydd a thrwy hynny effaith negyddol ar berfformiad economaidd go iawn. Mae hynny yn ei dro wrth gwrs yn golygu llai o arian yng nghoffrau'r trysorlys ac felly mwy byth o drafferthion gwariant cyhoeddus.

Mae'n hwyr iawn yn y dydd i Lywodraeth Cymru wneud unrhyw beth am y sefyllfa, ac rwy'n ofni y gallai'r gyflafan economaidd mewn rhannau o Ewrop danseilio unrhyw gamau positif ymlaen. Ond, tybed onid oes achos cryf yma yng Nghymru i'r Llywodraeth ddechrau ail-adeiladu hyder? [Rwy'n meddwl yn benodol am ddadansoddiad campus Danny Blanchflower - yr economegydd nid y pêl-droediwr - sy'n dangos fod dengwaith yn fwy o bobl yn poeni am golli eu swyddi nag sy'n gwynebu perygl gwirioneddol o golli swydd]. Oni ddylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi na fydd yn ddiswyddiadau gorfodol yn y sector cyhoeddus am y ddwy flynedd nesaf i unrhyw un sy'n ennill islaw dyweder £50,000 y flwyddyn? Byddai angen efallai i bobl symud swyddi, ac i gyrff wneud defnydd priodol o gyfleoedd sy'n codi drwy cyflogeion yn gadael i leihau costau, ond byddai datganiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru rwy'n tybio yn mynd rhan o'r ffordd i ddechrau ail-adeiladu hyder economaidd yng Nghymru.

Mae disgwyliadau a chanfyddiadau llawn mor bwysig â 'realiti' wrth lywio penderfyniadau economaidd ac oni bai fod llywodraethau yma yng Nghymru ac ar draws y byd yn dechrau mynd i'r afael a hyn, gall yr hinsawdd economaidd ddirywio yn sylweddol iawn yn ystod y 12 mis nesaf.

Thursday 29 December 2011

Papurau Newyddion / Cylchgronau Dwyieithog

Wedi pwt sydyn o frwdfrydedd am flogio yn Gymraeg, wnes i fethu a chadw blog Cymraeg i fynd ochr yn ochr a'm blog cyfrwng Saesneg! Mae'r blog Saesneg oedd yn gysylltiedig gyda'm hymgyrch etholiadol i raddau helaeth bellach wedi gorffen, ac felly dyma benderfynu ail gychwyn y blog Cymraeg, a hynny fel rhyw fath o adduned blwyddyn newydd.

Un testun sydd wedi achosi tipyn o drafodaeth yn ddiweddar yw cyhoeddi papurau newyddion dwyieithog, wel rhywfaint beth bynnag! Yn benodol rwy'n meddwl am bapurau newyddion Plaid Cymru, y Ddraig Goch a'r Welsh Nation. Maent ill dau yn cael eu cyhoeddi ar yr un pryd ond mae'r golygyddion yn wahanol ac mae'r cynnwys yn amrywio - er bod y themau yn weddol o gyson. Mae awgrymiad diweddar wedi ei wneud y dylid cyhoeddi un papur newyddion / cylchgrawn a honno yn ddwyieithog.

Yn reddfol mae'n rhaid i mi gyfaddef nad yw'r syniad yn apelio yn enfawr ataf. Os oes ysgrifennu creadigol / newyddiadurol yn cael ei saernio yn y naill iaith neu'r llall, a'r ddwy cyhoeddiad yn rhai o safon, mae'n bosib dadlau y dylid cadw cyhoeddiadau Saesneg a Chymraeg. Ar y llaw arall mae dadl dros gynnwys yr union un straeon mewn un papur / cylchgrawn cyfansawdd ddwyieithog. Dwi heb fy argyhoeddi naill ffordd neu'r llall, ond buasai'n dda gennyf glywed barn amrywiol ar y testun.

Gan ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i bawb.

Rwy'n gobeithio y bydd y blog yn tipyn mwy toreithiog y tro hwn!