Wednesday 2 January 2013

Achub y Gymraeg? Yn y cartref, yn y gymuned neu yn y gweithle?

Wrth edrych tuag at flwyddyn newydd (a mwy o fanylion o'r cyfrifiad), mae Cymdeithas yr Iaith yn rhybuddio am ddyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol.

Does dim dwywaith fod sail gadarn i'r rhybudd hynny, a byddaf yn ymuno gyda thorf dda gobeithio yn un o ralïau cyntaf y Gymdeithas ym Merthyr Tudful ddydd Sadwrn. Ond tybed beth sydd gan y Gymdeithas dan sylw wrth sôn am adfywio cymunedol er mwyn achub y Gymraeg. Does dim manylion mawr am hyn, ac felly dwi ddim am greu dadl ble nad oes un yn bodoli; ond tybed pa weithgarwch y dylid ei flaenoriaethu dros y cyfnod nesaf?

Yr hyn sy'n fy mhoeni i yw'r diffyg canolbwyntio ar y man gwaith fel darn cwbl allweddol o jigso cymhleth achub y Gymraeg. Does dim dwywaith fod 'na waith pwysig i'w gwneud wrth sicrhau trosglwyddiad iaith o genhedlaeth i genhedlaeth oddi fewn i'r cartref, ac mae sicrhau arlwy o weithgareddau a digwyddiadau cymunedol digonol yn Gymraeg yn rhan annatod o fywiogrwydd cymunedol; OND onid yn y byd gwaith yw'r her fawr?

Yn ein bywydau beunyddiol y cyfle mawr sydd gan awdurdodau cyhoeddus i ddylanwadu at sut mae unigolion yn ymagweddu tuag at y Gymraeg, a faint o ddefnydd maen nhw'n ei wneud o'r iaith yw trwy'r byd gwaith. Yr hyn sydd gennyf dan sylw yw ymgais gwirioneddol i geisio creu, datblygu a chefnogi gweithleoedd ble mae'r Gymraeg yn brif iaith weithredol. Nid tasg hawdd mo hynny, ac mae angen cryn ewyllys da ar bob ochr i wneud i'r drefn weithio - ond os am ddatblygu hyder miloedd o Gymry i ddefnyddio'r Gymraeg yn fwy aml yn y cartref ac yn y gymuned, mae gwreiddio'r Gymraeg yn y byd gwaith yn hollbwysig.

Tybed faint o gyflogwyr (ac eithrio ambell eithriad anrhydeddus iawn) sy'n rhoi bri ar sgiliau Cymraeg? Byddai cyflogwr ddim yn ystyried apwyntio unigolyn heb sgiliau cyfathrebu digonol yn y Saesneg - ac felly pam ar wyneb y ddaear - wrth wasanaethu cymunedau sy'n helaeth ddwyieithog fod Cyngor, neu Fwrdd Iechyd neu gorff cyhoeddus arall yn meddwl ei bod hi'n dderbyniol i apwyntio unigolion nad sy'n medru cyfathrebu yn Gymraeg!

Os felly ry'ch chi'n derbyn fod lle i roi tipyn mwy o sylw i'r byd gwaith, y man amlwg iawn i gychwyn i unrhyw fudiad sydd o ddifrif ynghylch y materion hyn yw casglu data am faint o siaradwyr Cymraeg sy'n cael eu cyflogi gan wahanol awdurdodau cyhoeddus (a'r sawl sy'n rhan o ddarpariaeth safonau'r Mesur Iaith wrth gwrs). a pha bolisïau sydd gan gyflogwyr er mwyn hybu yn rhagweithiol recriwtio a datblygu siaradwyr Cymraeg. Rwy'n amau y byddai'r darlun yn ddadlennol iawn!

Ac un peth bach arall i gloi'r amrywiol sylwadau yma. Dwi'n gwbl argyhoeddedig fod angen newid yr ieithwedd a ddefnyddiwn wrth sôn am y Gymraeg yn y byd gwaith. Mae'r Gymraeg yn sgil y mae modd ei ddysgu a'i ddatblygu yn yr union yr un modd ac y mae modd dysgu iaith arall, neu ddysgu i ddefnyddio rhaglen gyfrifiadurol neilltuol. Does dim byd o gwbl o'i le ar osod set o sgiliau angenrheidiol ar gyfer gweithio yn y sector cyhoeddus, a fydd mewn sawl man yn cynnwys sgiliau penodedig yn y Gymraeg. Byddai hynny yn ei dro wrth gwrs yn arwain at fwy o statws i'r Gymraeg ac wrth recriwtio cyflogai gyda'r sgiliau angenrheidiol.

Monday 31 December 2012

Gwnewch Adduned i'r Gymraeg


Daeth yr adeg hynny o'r flwyddyn i bawb ymrwymo i golli bach o bwysau, i ddweud na i'r ail wydr o win, ac i osgoi siocled am o leiaf wythnos, ond tybed dylen ni oll fod yn ystyried gwneud adduned i'r Gymraeg y flwyddyn hon?

Does dim dwywaith y bu ffigyrau'r cyfrifiad yn ergyd drom, ond mi roedden nhw ond yn cadarnhau'r hyn ry'n ni'n ei gweld a'i glywed o'n cwmpas - sef mai lleiafrif o'r sawl sy'n medru'r Gymraeg sy'n defnyddio'r Gymraeg yn eu bywyd beunyddiol. Dyna'r her i'r flwyddyn newydd - ar lefel polisi i awdurdodau cyhoeddus fynd i'r afael a'r her - ond ar lefel personol (gan gofio siars Hywel Gwynfryn i fabwysiadu dysgwr) i ni oll wneud rhywbeth yn Gymraeg.



Pe baem ni oll yn addunedu i wneud un peth - mi fyddai'n cael effaith sylweddol iawn. Dyma ambell awgrymiad ac mae croeso mawr i bawb ychwanegu awgrymiadau pellach:

* Cysylltu yn Gymraeg yn gyntaf gyda'r Cyngor lleol neu unrhyw gorff cyhoeddus arall perthnasol.
* Trydar yn Gymraeg
* Mabwysiadu dysgwr (cynllun Hywel Gwynfryn)
* Gwirfoddoli yn y Ganolfan Gymraeg lleol
* Prynu Cardiau Cymraeg
* Dewis yr opsiwn Cymraeg ar bob adeg ar diliau hunain wasanaeth
* Mynnu gwasanaeth Cymraeg gan yr NHS yng Nghymru


* Mynd i ddosbarth nos yn Gymraeg (rwy'n gwybod am wersi Sbaeneg sy'n cael eu cynnig yn Gymraeg yn y Cymoedd!)
* Rhedeg yn Gymraeg (fy nghynllun bach i er mwyn denu grŵp o ddysgwyr i redeg yn hamddenol yng Nghaerdydd dros amser cinio - ond rhedeg yn Gymraeg)
* Blogio yn Gymraeg, ac ychwanegu geirfa ddethol i waelod y blog am eiriau Cymraeg
* Gohebu yn Gymraeg gyda dysgwyr, ac ychwanegu geirfa ddethol i waelod yr E-bost

ond efallai yn bwysicach byth
* Cefnogi a chymeradwyo pob un o'n cyd-wladwyr sy'n gwneud yr ymdrech i siarad Cymraeg, ac wrth eu cefnogi gweld eu hyder yn datblygu.


Beth fydd eich adduned chi i'r Gymraeg i'r flwyddyn newydd?

Sunday 30 December 2012

Trydar yn Gymraeg - faint o gyrff a chwmnioedd sy'n gwneud?



Mi wnaeth sylw diweddar gan @hywelm am y wefan sy'n cynnwys data am bobl a chyrff sy'n trydar yn Gymraeg - Indigenous Tweets: Cymraeg f'atgoffa am y cyfoeth o ddata a geir ar y wefan honno.

Tybed felly faint o'r 500 o drydarwyr a rhestrir sy'n gyrff cyhoeddus / cwmnïoedd a phwy sydd fwyaf toreithiog eu trydariadau.

Isod mae rhestr syml o'r 39 corff dwi wedi adnabod ar 'indigenous tweets' sydd yn y 500 a rhestrir ar y wefan sy'n trydar yn Gymraeg.  Y ffigwr a nodir yw'r nifer o drydariadau sydd wedi eu cyhoeddi yn Gymraeg.



Da iawn Cyngor Caerdydd yw'r peth cyntaf i nodi - Cyngor sy'n trydar yn rheolaidd (ac yn ddefnyddiol yn Gymraeg!).  Ond, gan nodi efallai na restrir pawb - ble mae Cyngor Ceredigion, Cyngor Sir Gar neu Gyngor Sir Fôn? Neu unrhyw gyngor o ran hynny - os yw Caerdydd a Phowys yn gallu darparu gwasanaeth effeithiol i'w trigolion yn Gymraeg pam nad pob cyngor?

Yn yr un modd os yw Heddlu Gogledd Cymru yn gallu cynnal gwasanaeth yn Gymraeg beth am Heddlu Dyfed Powys, Heddlu De Cymru, Heddlu Gwent?

Ac os yw RGC1404 yw gwneud defnydd da o drydar - beth am y Sgarlets neu'r Gweilch?


Dwi ddim wrth gwrs yn dadlau am eiliad y gellir achub y Gymraeg wrth drydar yn unig, ond mae'n gyfrwng y defnyddir yn aml - gan Gymry sydd a phob math o lefel hyder yn y Gymraeg, ac felly yn gyfle gwych i'r sawl sy'n siarad Cymraeg i dderbyn gwybodaeth a gwasanaeth yn Gymraeg; ac i'r sawl sy'n dysgu i weld y Gymraeg, i ddeall y Gymraeg a dysgu geirfa newydd.

Da iawn i bawb felly sydd ar y rhestr, ond onid yw hi'n hen bryd i'r gweddill siapio!


cyngorcaerdydd 3420
LlywodraethCym 2128
LLGCymru 1905
YGanolfan 1889
CyngorGwynedd 1861
Plaid_Cymru 1533
CynulliadCymru 1502
LlenCymru 1362
eisteddfod 1275
lleol_dot_net 1137
CwmniFranWen 1115
_gwead 1080
StonewallCymru 1078
Wedi3Wedi7 1073
DileuTlodi 1073
Yr_Urdd 1070
cymdeithas 1066
PartCymru 1009
ysgolycreuddyn 1009
EnvAgencyWales 998
turnstilemusic 976
NWPolice 957
Celtes_Cymru 944
prifysgolbangor 915
CSPowys 862
Gisdacyf 783
CFfICymru 783
CBSConwy 766
colegcymraeg 754
YstadegauCymru 750
safleswyddi 706
WWFCymru 697
MenterCaerdydd 696
YGPlasNewydd 659
RGC1404 655
GlamArchives 651
Cyfle 648
Prifysgol_Aber 647
YLolfa 641

Saturday 29 December 2012

Robyn Lewis - Arwr neu Ddihiryn?


Mae trafodaeth fywiog eisoes yn digwydd wrth drydar am safiad Robyn Lewis wrth fynnu cael ei wasanaethu yn Gymraeg yn Spar Pwllheli. Mae'r BBC hefyd yn trafod y stori fan hyn.

Yr hyn sy'n ddiddorol am y trydar yw bod cyfran sylweddol o'r actifyddion ieithyddol sy'n feirniadol (iawn) o'r hyn a wnaeth Robyn Lewis. Ond tybed ai trydar yw'r cyfrwng gorau i drafod y fath sefyllfa anodd.

Rwy'n cyfeirio at hyn fel sefyllfa anodd, gan fod dwy farn yn croestynnu yn fy meddwl i.

Ar un llaw, dwi'n rhyfeddu nad oes gwasanaeth Gymraeg ar gael mewn siopau (mawr a chanolig) yng Ngwynedd. Pan oeddwn yn fyfyriwr yn Aberystwyth roedd gan y Safeways newydd o leiaf un cownter ble roedd gwasanaeth Gymraeg ar gael ar bob adeg, ac roedd nifer o fusnesau lleol dros y blynyddoedd yn cefnogi cynllun Iaith Gwaith Bwrdd yr Iaith.

Does dim dwywaith y dylai fod gwasanaeth Gymraeg felly, ond nid cyfrifoldeb unigolyn mo hyn - ond cyfrifoldeb y siop a'r cwmni yn y lle cyntaf, i fabwysiadu polisi rhagweithiol o recriwtio siaradwyr Cymraeg sy'n abl ac yn barod i wasanaethu cwsmeriaid yn y Gymraeg, ac wedyn i'w hyfforddi er mwyn cael yr hyder i wneud hynny yn effeithiol. [Byddai'r fath bolisi rhagweithiol wrth gwrs yn hybu defnydd y Gymraeg a statws y Gymraeg fel sgil cyflogaeth allweddol].

Ar y llaw arall, mae'n rhaid i unrhyw Gymro neu Gymraes dwymgalon gwestiynu dull gweithredu Robyn Lewis. Sut mae creu gwrthdaro unigol, anodd, annymunol a phoenus - rwy'n siŵr i'r Gymraes am ba bynnag gyfres o resymau nad oedd yn teimlo'n abl i adrodd niferoedd yn Gymraeg - yn mynd i helpu'r achos. Creu ffrae a helynt, pan efallai y byddai gweithredu cadarn ond ystyriol gyda rheolwyr y busnes er mwyn sicrhau hybu'r Gymraeg wedi bod yn llawer mwy effeithiol? Does gennyf ddim amheuaeth y bydd y digwyddiad yn fel ar fysedd gwrthwynebwyr y Gymraeg - ond rwy'n poeni fwy y bydd y fath yma o ddigwyddiad yn codi un ofn bach arall ym meddyliau'r lliaws o Gymry Cymraeg dihyder cyn mentro i ddefnyddio'r iaith.

Ar nodyn mymryn yn wahanol i gloi, doedd anhawster rhifyddol y cyfryw aelod o staff ddim yn syndod enfawr i mi - a hynny wedi darllen llyfr campus Gareth Ffowc Roberts Mae Pawb yn Cyfrif, sy'n gyfrol feistrolgar sy'n trin a thrafod heriau rhifol pobl, a Chymry un benodol.

Friday 28 December 2012

Byw yn Gymraeg?


Un o'r ymatebion i'r cyfrifiad gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yw'r ymgyrch 'Dwi eisiau byw yn Gymraeg.' Nawr ar yr olwg gyntaf, mae'n slogan deniadol ac yn cyfleu'r hyn mae llawer iawn ohonom yn dymuno ei wneud, sef byw y rhan fwyaf o'n bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ond efallai mai dyna'r her i'r Gymdeithas, i'r Gymraeg ac i ni fel siaradwyr Cymraeg. Beth yw byw yn Gymraeg? Nawr i mi, dwi eisiau byw - dwi eisiau arddel fy niddordebau, cael hwyl, byw bywyd llawn yn y gwaith a'r byd gwirfoddol - a hefyd eisiau cymryd pob cyfle i wneud hynny trwy'r Gymraeg. Wel, efallai bron bob cyfle, Springsteen yw'r bos wrth gwrs mewn unrhyw iaith!

Y gamp yw, a dyma fawredd syniad Hywel Gwynfryn o fabwysiadu dysgwr, yw gwneud y defnydd o'r Gymraeg yn addas i'r cyd-destun. Nid pob dysgwr sydd a'r un diddordebau, nid pob siaradwr Cymraeg sy'n dymuno ymuno gyda chôr neu chwarae rygbi - ac felly mae angen cynnig amrywiol gyfleoedd a sefyllfaoedd i bobl defnyddio'r Gymraeg (a dysgu'r Gymraeg o ran hynny). Mae rhai o'r mentrau iaith yn enghreifftiau clodwiw o hybu a hyrwyddo digwyddiadau gwahanol, ond yn sicr nid pob un!

Yr her bellach wedyn yw sicrhau fod pob awdurdod cyhoeddus yn rhoi cyfle rhagweithiol i bobl defnyddio'r Gymraeg. Dwi'n sôn am gynnig rhagweithiol oherwydd mai dyna'r ieithwedd gref a ddefnyddir wrth ymdrin â'r Gymraeg yn yr NHS - sy'n tanlinellu'r angen i'r Gymraeg fod yn ddewis naturiol syml i bobl yn hytrach nag yn frwydr i fynnu'r cwrteisi lleiaf - gweler blog Vaughan Roderick am enghraifft arall ofnadwy diweddar.

Mae 'na lot fawr o waith i'w gwneud, ond mae angen fod yn glir ar natur y dasg er mwyn llwyddo a sicrhau fod cyfle gennym i fyw ein bywydau lle bynnag bo'n bosib yn y Gymraeg.

Wednesday 19 December 2012

Mabwysiadu Dysgwr - Adopt a Learner


Mi wnaeth Hywel Gwynfryn @hywelgwynfryn awgrymu y dylai siaradwyr Cymraeg fabwysiadu dysgwr yr un a threulio awr yr wythnos gyda nhw yn eu helpu i ddysgu. Syniad campus ddweda i, ac yn un sy'n rhoi awgrymiad syml ac ymarferol i bob un ohonom sy'n siarad Cymraeg.

Mae cryfder i'r syniad hefyd wrth gwrs am ei fod yn dangos yn glir ein bod yn frwd o blaid y cyfeillion hynny sy'n ymdrechu i ddysgu'r iaith. Mae sicrhau agwedd iach a chadarnhaol at ddysgwyr yn hollbwysig i'm tyb i.

Yn wir mi fuaswn i'n mynd cam ymhellach, gan feddwl hefyd am y continwwm ieithyddol. Mae angen gofal ac ystyriaeth wrth ddelio gyda'n gilydd a'n sgiliau Cymraeg. Fel bydd nifer yn gwybod, rwy'n treulio rhywfaint o'n hamser sbâr yn ymwneud a gwleidyddiaeth, ac wrth feddwl am syniad Hywel Gwynfryn ddaeth dau ymateb i gof. Roeddwn wedi paratoi cylchlythyr lleol i gyd-aelodau, pan oeddwn bryd hynny yn byw yng Ngheredigion. Doedd y cylchlythyr ddim yn mynd i ennill gwobrau llenyddol, ac mi roedd ambell lithriad a thypo - ond gallwch ddychmygu sut oeddwn i'n teimlo o dderbyn y cylchlythyr yn ôl gan gyfaill wedi ei farcio a phen coch!

Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach ar garlam yng nghanol bwrlwm etholiad yng Nghwm Cynon dyma lunio cylchlythyr arall, ac eto mi roedd ambell typo y tro hwn, a derbyn nodyn hyfryd iawn nol gan gyfaill arall. Roedd y nodyn yn diolch yn ddiffuant iawn am yr holl waith, yn cydnabod prysurdeb anorfod, yn nodi pa mor anodd yw hi i brawf ddarllen eich gwaith eich hun, ac yn cynnig ar unrhyw adeg o'r dydd neu nos i brawf ddarllen unrhyw ddogfennau oedd gennyf o fewn ychydig oriau.

Nawr, roedd y ddau ymateb yn unfarn - doedd safon y cylchlythyron ddim yn ddigon da - ond roedd y gwahaniaeth yn null yr ymateb yn gwneud byd o wahaniaeth. Diolch i'r drefn mi ddaliais i ati, ond pe tawn efallai yn ddysgwr mymryn llai hyderus efallai taw'r cylchlythyr yng Ngheredigion fyddai fy nghylchlythyr olaf yn Gymraeg!

Beth amdani felly- beth am i ni oll fabwysiadu o leiaf un dysgwr yr un? a chofio y daw hyder a defnydd trwy gefnogaeth( ac arweiniad!), a bod ein hagwedd groesawgar ni at ein cyd-breswylwyr sy'n dysgu'r iaith yn hollbwysig os am lwyddo.

Tuesday 18 December 2012

Mae dros filiwn o siaradwyr Cymraeg

Mae dros filiwn o siaradwyr Cymraeg. Ydy hynny yn bosib yn dilyn cyhoeddiad ffigyrau'r cyfrifiad yn ddiweddar? Ydy, siŵr, a na dwi heb fod yn mwynhau gormod o sieri Nadoligaidd! Yr hyn sydd gen i dan sylw yw'r cannoedd o filoedd o bobl sy'n gallu siarad Cymraeg ond am gyfres o resymau cymhleth sydd ddim yn ei ddefnyddio yn rheolaidd, ac felly yn annhebygol o nodi ar ffurflen cyfrifiad eu bod yn siarad Cymraeg.

Os am dystiolaeth clir o'r hyn rwy' newydd ddweud does dim angen mynd ymhellach nag arolwg ICM yn 2009 wnaeth dangos fod 35% o bobl Cymru yn siarad Cymraeg fan lleiaf i'r lefel 'enough to get by' - a chofier mai arolwg oedolion oedd hyn ac felly byddai arolwg o'r boblogaeth cyfan yn cael ffigwr uwch. Mae arolygon i ITV yn y gorffennol (HTV bryd hynny) wrth gynnig graddfa chwech pwynt am hyfedredd ieithyddol yn darganfod lleiafrif yn unig nad sy'n siarad Cymraeg o gwbl (rhyw 37% os cofiaf yn iawn).

Pam fod hyn yn bwysig? Un o'r rhesymau rwy' wedi ail-gychwyn blogio yw rhannu ambell syniad a sbarduno trafodaeth am yr hyn sydd angen ei wneud yn sgil y cyfrifiad. Yn sicr nid anobeithio - mae 'na waith mawr i wneud - ond mae angen gofal a thrafodaeth i benderfynu pa waith sydd angen ei wneud.

Dwi am gychwyn darn bach o'r drafodaeth drwy sôn am esiampl fach ddiweddar o gyfarfod gyda chyfieithu. Rwy'n ddigon ffodus i weithio mewn corff sy'n gweithredu yn Gymraeg. Mewn cyfarfod diweddar roedd criw da wedi ymgasglu ac ambell gyfrannwr yn dibynnu ar yr offer cyfieithu. Aeth y cyfarfod yn ei flaen, a bu'n rhaid i'r cyfieithydd adael - ond er mawr syndod dyma'r ddau 'di-Gymraeg' yn dweud eu bod yn gallu dilyn digon beth bynnag. Hanner awr yn ddiweddarach roedd y ddau yn cyfrannu i'r drafodaeth (yn Saesneg rhan fwyaf), ond does gennyf ddim amheuaeth eu bod wedi ymarfer mwy ar eu Cymraeg yn yr hanner awr hynny nag oeddent ers tro byd. Rwy'n eitha' siŵr fod y ddau berson yma yn ddi-Gymraeg yn ôl y cyfrifiad - ond - i mi roeddent fel pob un ohonom sy'n siaradwyr Cymraeg ar gontinwwm (os mai dyna'r sillafiad cywir) o hyfedredd ieithyddol; a'r hyn sydd ei angen yn sicrhau digonedd o gyfleoedd i bobl i ddefnyddio'r Gymraeg mewn amrywiol gyd-destunau a chyweiriau fel eu bod yn gallu datblygu eu hyder a'u hyfedredd.

Man cychwyn trafodaeth yw'r pwt yma o sylwadau, ond yn fwy na dim oll dylid cofio geiriau Saunders Lewis ar adeg heriol fel hyn (gyda diolch i Mari Sion a Hywel Williams am f'atgoffa o'i eiriau) A ydy'r sefyllfa'n anobeithiol? Ydy', wrth gwrs, os bodlonwn ni i anobeithio. 'Does dim byd yn y byd yn fwy cysurus nag anobeithio.