Tuesday 7 February 2012

Oes cysylltiad rhwng AWEMA a S4C?

Rwy' wedi bod yn gwylio gyda chymysgedd o ryfeddod a chynddaredd wrth i straeon lu ymddangos parthed dulliau gweithio AWEMA yn ddiweddar. Mae'n bwysig wrth gwrs peidio barnu cyn gwybod y ffeithiau cyfan, ond mae'r hyn sydd eisoes wedi ei gadarnhau yn gyhoeddus gan AWEMA yn paentio darlun o gorff sydd wedi ei gam-reoli a'i gam weinyddu yn ddifrifol iawn.

Ond gyda'r lefel yma o broblemau, pam nad ydym wedi clywed am hyn ynghynt? Dylwn i ddweud wrth gychwyn mod i wedi bwriadu sgwennu'r pwt yma dros y penwythnos ond heb gael cyfle - mae sylwadau'r Dr Rita Austin ddoe o AWEMA yn cadarnhau fy mhwynt rwy'n tybio.

Rwy'n ofni ein bod ar adegau yng Nghymru yn oedi cyn codi pryderon am gyrff neu fudiadau sy'n agos at ein calonnau gwleidyddol, a hynny gan fod y genhadaeth yn bwysig a'n bod am ochel rhag tanseilio'r genhadaeth honno.

Wedi i'r Ceidwadwyr ddod i rym yn San Steffan ddaeth diffygion difrifol S4C i sylw cynulleidfa fwy eang. Prin oedd y bobl oedd yn amddiffyn S4C ar ei ffurf 2010/11. Ond tybed oedd y sawl a welodd broblemau flynyddoedd ynghynt ond oedd heb godi cwestiynau am eu bod yn credu mewn sianel Gymraeg, yn nodi fod y diffyg cwestiynu wedi arwain i sefyllfa ble gallai dyfodol y sianel ei hun fod yn y fantol?

Yn yr un modd siawns bod adeiladau cyrff grymus, effeithiol a phroffesiynol ym maes cynrychiolaeth, datblygiad economaidd a chynhwysiant cymunedau du a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru yn nod bwysig. Ac felly, mae gofyn cwestiynau difrifol os oes cam-weinyddu yn digwydd i'm tyb i yn arwydd o ddifrifoldeb yr ymrwymiad at gymdeithas gyfartal yng Nghymru a herio hiliaeth ble bynnag y bo. Mae'r awgrymiad fod angen cefnogi cyrff fel AWEMA yn ddi-gwestiwn yn un peryglus iawn, ac mae esiampl S4C yn dangos fod peryg mawr peidio holi cwestiynau caled os oes angen eu codi.


No comments: