Saturday 29 December 2012

Robyn Lewis - Arwr neu Ddihiryn?


Mae trafodaeth fywiog eisoes yn digwydd wrth drydar am safiad Robyn Lewis wrth fynnu cael ei wasanaethu yn Gymraeg yn Spar Pwllheli. Mae'r BBC hefyd yn trafod y stori fan hyn.

Yr hyn sy'n ddiddorol am y trydar yw bod cyfran sylweddol o'r actifyddion ieithyddol sy'n feirniadol (iawn) o'r hyn a wnaeth Robyn Lewis. Ond tybed ai trydar yw'r cyfrwng gorau i drafod y fath sefyllfa anodd.

Rwy'n cyfeirio at hyn fel sefyllfa anodd, gan fod dwy farn yn croestynnu yn fy meddwl i.

Ar un llaw, dwi'n rhyfeddu nad oes gwasanaeth Gymraeg ar gael mewn siopau (mawr a chanolig) yng Ngwynedd. Pan oeddwn yn fyfyriwr yn Aberystwyth roedd gan y Safeways newydd o leiaf un cownter ble roedd gwasanaeth Gymraeg ar gael ar bob adeg, ac roedd nifer o fusnesau lleol dros y blynyddoedd yn cefnogi cynllun Iaith Gwaith Bwrdd yr Iaith.

Does dim dwywaith y dylai fod gwasanaeth Gymraeg felly, ond nid cyfrifoldeb unigolyn mo hyn - ond cyfrifoldeb y siop a'r cwmni yn y lle cyntaf, i fabwysiadu polisi rhagweithiol o recriwtio siaradwyr Cymraeg sy'n abl ac yn barod i wasanaethu cwsmeriaid yn y Gymraeg, ac wedyn i'w hyfforddi er mwyn cael yr hyder i wneud hynny yn effeithiol. [Byddai'r fath bolisi rhagweithiol wrth gwrs yn hybu defnydd y Gymraeg a statws y Gymraeg fel sgil cyflogaeth allweddol].

Ar y llaw arall, mae'n rhaid i unrhyw Gymro neu Gymraes dwymgalon gwestiynu dull gweithredu Robyn Lewis. Sut mae creu gwrthdaro unigol, anodd, annymunol a phoenus - rwy'n siŵr i'r Gymraes am ba bynnag gyfres o resymau nad oedd yn teimlo'n abl i adrodd niferoedd yn Gymraeg - yn mynd i helpu'r achos. Creu ffrae a helynt, pan efallai y byddai gweithredu cadarn ond ystyriol gyda rheolwyr y busnes er mwyn sicrhau hybu'r Gymraeg wedi bod yn llawer mwy effeithiol? Does gennyf ddim amheuaeth y bydd y digwyddiad yn fel ar fysedd gwrthwynebwyr y Gymraeg - ond rwy'n poeni fwy y bydd y fath yma o ddigwyddiad yn codi un ofn bach arall ym meddyliau'r lliaws o Gymry Cymraeg dihyder cyn mentro i ddefnyddio'r iaith.

Ar nodyn mymryn yn wahanol i gloi, doedd anhawster rhifyddol y cyfryw aelod o staff ddim yn syndod enfawr i mi - a hynny wedi darllen llyfr campus Gareth Ffowc Roberts Mae Pawb yn Cyfrif, sy'n gyfrol feistrolgar sy'n trin a thrafod heriau rhifol pobl, a Chymry un benodol.

No comments: