Tuesday 18 December 2012

Mae dros filiwn o siaradwyr Cymraeg

Mae dros filiwn o siaradwyr Cymraeg. Ydy hynny yn bosib yn dilyn cyhoeddiad ffigyrau'r cyfrifiad yn ddiweddar? Ydy, siŵr, a na dwi heb fod yn mwynhau gormod o sieri Nadoligaidd! Yr hyn sydd gen i dan sylw yw'r cannoedd o filoedd o bobl sy'n gallu siarad Cymraeg ond am gyfres o resymau cymhleth sydd ddim yn ei ddefnyddio yn rheolaidd, ac felly yn annhebygol o nodi ar ffurflen cyfrifiad eu bod yn siarad Cymraeg.

Os am dystiolaeth clir o'r hyn rwy' newydd ddweud does dim angen mynd ymhellach nag arolwg ICM yn 2009 wnaeth dangos fod 35% o bobl Cymru yn siarad Cymraeg fan lleiaf i'r lefel 'enough to get by' - a chofier mai arolwg oedolion oedd hyn ac felly byddai arolwg o'r boblogaeth cyfan yn cael ffigwr uwch. Mae arolygon i ITV yn y gorffennol (HTV bryd hynny) wrth gynnig graddfa chwech pwynt am hyfedredd ieithyddol yn darganfod lleiafrif yn unig nad sy'n siarad Cymraeg o gwbl (rhyw 37% os cofiaf yn iawn).

Pam fod hyn yn bwysig? Un o'r rhesymau rwy' wedi ail-gychwyn blogio yw rhannu ambell syniad a sbarduno trafodaeth am yr hyn sydd angen ei wneud yn sgil y cyfrifiad. Yn sicr nid anobeithio - mae 'na waith mawr i wneud - ond mae angen gofal a thrafodaeth i benderfynu pa waith sydd angen ei wneud.

Dwi am gychwyn darn bach o'r drafodaeth drwy sôn am esiampl fach ddiweddar o gyfarfod gyda chyfieithu. Rwy'n ddigon ffodus i weithio mewn corff sy'n gweithredu yn Gymraeg. Mewn cyfarfod diweddar roedd criw da wedi ymgasglu ac ambell gyfrannwr yn dibynnu ar yr offer cyfieithu. Aeth y cyfarfod yn ei flaen, a bu'n rhaid i'r cyfieithydd adael - ond er mawr syndod dyma'r ddau 'di-Gymraeg' yn dweud eu bod yn gallu dilyn digon beth bynnag. Hanner awr yn ddiweddarach roedd y ddau yn cyfrannu i'r drafodaeth (yn Saesneg rhan fwyaf), ond does gennyf ddim amheuaeth eu bod wedi ymarfer mwy ar eu Cymraeg yn yr hanner awr hynny nag oeddent ers tro byd. Rwy'n eitha' siŵr fod y ddau berson yma yn ddi-Gymraeg yn ôl y cyfrifiad - ond - i mi roeddent fel pob un ohonom sy'n siaradwyr Cymraeg ar gontinwwm (os mai dyna'r sillafiad cywir) o hyfedredd ieithyddol; a'r hyn sydd ei angen yn sicrhau digonedd o gyfleoedd i bobl i ddefnyddio'r Gymraeg mewn amrywiol gyd-destunau a chyweiriau fel eu bod yn gallu datblygu eu hyder a'u hyfedredd.

Man cychwyn trafodaeth yw'r pwt yma o sylwadau, ond yn fwy na dim oll dylid cofio geiriau Saunders Lewis ar adeg heriol fel hyn (gyda diolch i Mari Sion a Hywel Williams am f'atgoffa o'i eiriau) A ydy'r sefyllfa'n anobeithiol? Ydy', wrth gwrs, os bodlonwn ni i anobeithio. 'Does dim byd yn y byd yn fwy cysurus nag anobeithio.

No comments: