Friday 28 December 2012

Byw yn Gymraeg?


Un o'r ymatebion i'r cyfrifiad gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yw'r ymgyrch 'Dwi eisiau byw yn Gymraeg.' Nawr ar yr olwg gyntaf, mae'n slogan deniadol ac yn cyfleu'r hyn mae llawer iawn ohonom yn dymuno ei wneud, sef byw y rhan fwyaf o'n bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ond efallai mai dyna'r her i'r Gymdeithas, i'r Gymraeg ac i ni fel siaradwyr Cymraeg. Beth yw byw yn Gymraeg? Nawr i mi, dwi eisiau byw - dwi eisiau arddel fy niddordebau, cael hwyl, byw bywyd llawn yn y gwaith a'r byd gwirfoddol - a hefyd eisiau cymryd pob cyfle i wneud hynny trwy'r Gymraeg. Wel, efallai bron bob cyfle, Springsteen yw'r bos wrth gwrs mewn unrhyw iaith!

Y gamp yw, a dyma fawredd syniad Hywel Gwynfryn o fabwysiadu dysgwr, yw gwneud y defnydd o'r Gymraeg yn addas i'r cyd-destun. Nid pob dysgwr sydd a'r un diddordebau, nid pob siaradwr Cymraeg sy'n dymuno ymuno gyda chôr neu chwarae rygbi - ac felly mae angen cynnig amrywiol gyfleoedd a sefyllfaoedd i bobl defnyddio'r Gymraeg (a dysgu'r Gymraeg o ran hynny). Mae rhai o'r mentrau iaith yn enghreifftiau clodwiw o hybu a hyrwyddo digwyddiadau gwahanol, ond yn sicr nid pob un!

Yr her bellach wedyn yw sicrhau fod pob awdurdod cyhoeddus yn rhoi cyfle rhagweithiol i bobl defnyddio'r Gymraeg. Dwi'n sôn am gynnig rhagweithiol oherwydd mai dyna'r ieithwedd gref a ddefnyddir wrth ymdrin â'r Gymraeg yn yr NHS - sy'n tanlinellu'r angen i'r Gymraeg fod yn ddewis naturiol syml i bobl yn hytrach nag yn frwydr i fynnu'r cwrteisi lleiaf - gweler blog Vaughan Roderick am enghraifft arall ofnadwy diweddar.

Mae 'na lot fawr o waith i'w gwneud, ond mae angen fod yn glir ar natur y dasg er mwyn llwyddo a sicrhau fod cyfle gennym i fyw ein bywydau lle bynnag bo'n bosib yn y Gymraeg.

2 comments:

david h jones said...

Dwi'n anghytuno rhyw faint a ti Dafydd. Wel, nid anghytuno a syniad HG wrth gwrs, ond dwi'n meddwl ei fod yn beth anodd iawn i'r wireddu.

Yr hyn sy'n haws ac a fydd yn cael mwy o effaith ac a fydd yn ei weithred a maes o law yn tynnnu dysgwyr a siaradwyr rhugl at ei gilydd yw fod pobl yn ymdrefnu.

Gall dri neu bedwar person sy'n dod at ei gilydd gyda targed bendant, gyrraeddadwy ac amserlen gwneud byd o wahaniaeth. Dyna oedd fy mhrofiad I gyda cais dotCYMRU. Dau berson oeddem ni am y rhan fwyaf o'r amser ond gyda cyfnodau o rhagor ond gyda Bwrdd go iawn.

Bydd y gwahaniaeth yma yn fwy strwythurol a mwy chynnaladwy na mabwysiadu dysgwr (a dwi'n meddwl, yn arddel ar fabwysiadu rhagor o ddysgwyr yn naturiol).

Rhof enghraifft.

Mae rhai pobl ar Twitter heddiw yn ceisio cael Undeb Rygbi Cymru i drydar yn Gymraeg. Mae hyn yn rhywbeth clodwi. Ond, beth sydd ar goll ydy ymgyrch.

Mae angen i'r 3 neu 4 person dod at ei gilydd (gall fod ar y we) trefn agenda, amserlen, pwyllgor (cadeirydd, trysoydd, ysgrifennydd) a addo i gwrdd yn ffurfiol pob 2 fis. Does dim angen arian yn banc a does dim angen bod yn or-ffurfiol ond mae angen trefn. Bydd creu y pwyllgor, yr agenda, y swyddogaethau yn rhoi'r trefn hynny.

Gall y mudiad (galwaf hi'n 'O bydded i'r heniaith barhau' am hwyl) wedyn yn lobio y WRU fel corff go iawn. Trefnu cyfarfod gyda'r WRU, cael cyfrif twitter a Fb, llythyru/ebostio AC ac ASau, cynnig opsiynau o sylwedd (ac hwyl) ac yn y pendraw bygwth os oes raid.

Fydd penderfynnu ar strategeth a chadw ato (yr hyn a ddigwydd mewn cyfarfod 2 fisol ...gall fod dros we) yn gyrru'r peth ei flaen. Bydd y WRU yn parchu ac yn gwrando mwy ar Mudiad OBiHIB yn fwy nac ar ymgyrch tan siafins ar twitter.

Dydy ddim lot mwy o waith i bobl. Bydd yn tynnu pobl at ei gilydd. Bydd yn ei ymgrymuso. byddai'n bosib wedyn cynnal canghennau tebyg ar gyfer prif glybiau rygbi Cymmru.

Un enghraifft yw hyn. Ond mae angen i ni gyd ymdrefnu. Yn sicr ar lefel sir. Mae'n sicr angen i bobl Sir Gaerfyrddin drefnu cyfarfod agored i gychwyn ymgyrch goiawn dros y Gymraeg. Gall hyn fod o dan adain y Menter Iaith, ond mae'n rhaid ymdrefnu gydag agenda, amserlen a swyddogion. Dydy unigolion fan hyn a fan draw yn gwneud darnau o waith da ddim yn ddigon effeithiol.

Mae angen trefn, mae angen strategaeth a pwyllgor gwaith (pewylais ar y gwaithh) ac mae angen tragedau amlwg a chyrhaeddadwy efo amserlen tynnu.

Heb drefn, heb pobl yn siarad efo ei gilydd ac ymdrefnu yna byddwn ni'n gwneud yr un camgymeriad a'r G19 - lot o bobl o ewyllus da ond dim strategaeth a dim ymgyrchu.

Sion J.

Penderyn said...

Dwi ddim yn siwr faint y'n ni'n anghytuno mewn gwirionedd. Dwi'n credu fod grym yn syniad Hywel G, ond fel rhan o'r atebion eang iawn i her yr iaith. Yr hyn dwi'n argyhoeddedig ohono yw fod angen denu pobl i ddefnyddio'r Gymraeg mewn nifer o wahanol feysydd, ac mae'r enghraifft o sicrhau defnydd eang gan ein clybiau rygbi yn un ffordd dda o ehangu defnydd ac apel y Gymraeg.