Saturday 11 February 2012

Comisiwn Silk a Dyfodol Economaidd Cymru

Yr wythnos hon cyhoeddwyd un o'r dogfennau pwysicaf mae'r Blaid wedi ei gynhyrchu ers sawl blwyddyn - tystiolaeth y Blaid i Gomisiwn Silk. Dyw hynny ddim efallai yn swnio'n addawol fel testun dogfen gyffrous o bellgyrhaeddol ond mae'r cynigion a geir yn y ddogfen (gellir ei lawr lwytho fan hyn) yn mynd i'r afael mewn ffordd glir, radical ac ymarferol a'r heriau sy'n ein gwynebu.

Mae cyfuniad o fesurau gan gynnwys:
* Rheolaeth dros Ystâd y Goron
* Pŵer Dros Dreth Gorfforaethol
* Hanner treth incwm a TAW i'w cadw yng Nghymru
* Pŵer i godi trethi parthed adnoddau naturiol
a thryloywedd parthed gwariant cyhoeddus ac incwm cyhoeddus yng Nghymru.

Fel pecyn mae'n cynrychioli cam mawr ymlaen wrth greu cyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru dros economi ein gwlad - a sicrhau fod 'na oblygiadau difrifol i fethiant. Mae hi wir werth darllen, ac mae hynny i'w adlewyrchu wrth weld yr adwaith positif sydd wedi bod i'r ddogfen gan nifer o sylwebyddion annibynnol.

Ond ar nodyn mwy pleidiol - rwy wrth fy modd fod y Blaid i'w gweld yn meddwl eto. Yn ddifrifol, yn hir dymor, yn radical ac yn ymarferol. Dyma gryfder mawr y Blaid yn hanesyddol, ac os yw'r dystiolaeth yma yn arwydd o wawr newydd meddylgar oddi fewn i'r Blaid, mi fydda' i wrth fy modd.

No comments: