Saturday 31 December 2011

Y Cyfrifiad, y Gymraeg a'r Gymdeithas

Pa mor wael fydd canlyniadau cyfrifiad 2011?

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan dros y dyddiau diwethaf y bydd canlyniadau'r cyfrifiad yn tanlinellu argyfwng cymunedau Cymraeg. Rhaid cyfaddef mod i'n poeni'n ddirfawr am ddyfodol y Gymraeg, ond ar dir mymryn yn wahanol i'r Gymdeithas.

Cwestiynau digon amrwd sy'n sail i'r cyfrifiad ac felly fe welwyd yn ddiweddar cynnydd sylweddol iawn ymysg y plant yn y De Ddwyrain er enghraifft sy'n 'siarad' Cymraeg. Does dim dwywaith fod elfen o hyn ynghlwm a thwf addysg Gymraeg, ond mae elfen arall sy'n deillio o'r datblygiadau yn addysg cyfrwng Saesneg i ddysgu rhywfaint o'r Gymraeg. Rwy'n tybio y bydd y patrwm yma yn parhau ac efallai y gwelwn gynnydd pellach wrth gyhoeddi'r ffigyrau. Ond mae peryg i'm tyb i hynny celu dirywiad pellach a sylweddol yn y nifer o bobl sy'n rhugl ac yn hyderus wrth siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg.

Efallai mai fi sy'n eithriad, ond dros y flwyddyn neu ddau ddiwethaf, rwy' wedi cwrdd â nifer o gyfeillion sydd er eu bod yn siarad Cymraeg, yn naturiol ac yn fwy cyffyrddus yn siarad Saesneg. Os yw'r Gymraeg gwirioneddol i ffynnu fel iaith gymunedol ar draws Cymru yna mae'n rhaid i'r patrwm hynny newid - a cham cyntaf mae'n siŵr i'r cyfeiriad hynny yw cywain gwybodaeth ddibynadwy am ystod sgiliau ieithyddol y boblogaeth. Byddai modd wedyn datblygu hyder a gallu'r sawl sy'n medru'r Gymraeg ond ddim yn ei siarad drwy weithgarwch penodol. Byddai'r fath strategaeth yn fodd o osod seiliau cynaliadwy ar gyfer y Gymraeg i'r dyfodol, a hefyd mynd i'r afael gyda'r angen am wreiddio'r Gymraeg fel iaith gymunedol mewn ardaloedd traddodiadol Gymraeg sy'n profi mewnlifiad sylweddol ar hyn o bryd.

2 comments:

Rhys Wynne said...

Cytuno 100% gyda sylwadau.

Licio'r blog gyda llaw, a dwi'n meddwl bod hi'n hollol bwysig bod rhai sy'n gwleidydda yn cadw deialog fel hyn (neu o leiaf cyhoeddi safbwyntiau) yn barhaol, ac nid popio i fyny rhai misoedd cyn etholiad gyda rhyw gyfrif Twiter yn datgan "Diwrnod gwych yn canfasio yn X heddiw". (Sori, rant bach fan'na!)

Enwie, des i draw i dy flog yn dilyn sylw adwaist ar wefan Golwg360. Gai fod yn pedantig ac awgrymu, pan ti'n cyfeirio at gofnod blog neu erthygl newyddion dy fod yn rhoi URL uniongyrchol atynt yn hytrach nag at y wefan gyffrediniol.

E.e. dolen at y cofnod blog hwn, yn hyrach nag un at URL y blog ei hun, hefyd un at y datganiad ar wefan CYI yn hytrach nag un at eu gwefan. Mantais hyn ydy, os ydy rhwyun yn digwydd dilyn y dolen rhai diwrnodau/wythnosau yn ddiweddarach fyddan nhw ddim yn gwybod at pa gofnod/erthygl ti'n cyfeirio atynt. Dyma un o fanteision y we o allu rhoi dolen yn syth at bethau penodol. Diwedd y pedantrwydd!

Rhys
(www.gwenu.com)

Penderyn said...

Diolch am dy sylwadau Rhys - rhaid dweud mai ymdrech lled-amaturaidd fu fy mlogio erioed, ac felly mae cael cyngor call ar sut i ddynodi URLs ac ati o ddefnydd mawr.