Friday 3 September 2010

Pethau Bychain

Ychydig fisoedd yn ol mi fues i'n ddigon ffodus i wrando ar gyflwyniad ar ddefnydd y Gymraeg ar y we, a bu'r cyflwynydd yn nodi cyn lleied o flogiau Cymraeg oedd wrth ystyried poblogaeth Cymru. Mi ddes i o'r cynhadledd yn argyhoeddedig mod i'n mynd i sefyldu blog yn Gymraeg - ond hefyd yn pendroni am ddwyieithrwydd. Ai sgwennu dau flog gyda'r un cynnwys - un yn Saesneg ac un yn Gymraeg dyliwn i wneud.

Mi roedd hynny efallai yn ddigon o esgus i beidio gwneud dim, ond mae diwrnod Pethau Bychain wedi fy ysbrydoli i lansio'r blog Cymraeg. Dyma benderfynu hefyd y byddai fy mlog Saesneg yn parhau sy'n ymwneud yn helaeth iawn a Chwm Cynon, a cheisio ffocysu trafodaethau'r blog yma ar faterion mwy cenedlaethol a rhyngwladol.

Mi fyddaf yn postio yn hwyrach yn y dydd i drafod hynt a helynt y Blaid ar hyn o bryd. Llongyfarchiadau mawr i'r tim wnaeth ddyfeisio cysyniad Pethau Bychain.

3 comments:

Paul Richardson said...

Postyn ardderchog, Dafydd! Mae gen i ddiddordeb arbennig yn y syniad bod yn anodd penderfynu pa iaith i ddefnyddio. Fel dysgwr Gymraeg, mae well gen i ddarllen Cymraeg, wrth gwrs! Ond does dim rhaid i chi sgwennu bob un yn ddwyieithog, achos pobl sy ddim yn siarad Cymraeg o gwbl, yn gallu defnyddio Google Translate. Dwi wedi sgwennu ar y rhesymau pam does 'na ddim llawer o blog Gymraeg a http://blogs.rsc-wales.ac.uk/acl/2010/02/23/where-are-the-welsh-blogs/

Nic said...

Cytunaf pob gair. Mae GoogleTranslate (a beth bynnag sy'n dod nesa) yn mynd i newid y ffordd dyn ni'n meddwl am ddwyieithrwydd yn y dyfodol gweddol agos, dw i'n credu.

Penderyn said...

Diolch Nic a Paul am y sylwadau. Dwi'n gobeithio cadw at y blogio yn Gymraeg, ac ychwanegu google translate i'r blog 'fyd!