Saturday, 31 December 2011

Y Cyfrifiad, y Gymraeg a'r Gymdeithas

Pa mor wael fydd canlyniadau cyfrifiad 2011?

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan dros y dyddiau diwethaf y bydd canlyniadau'r cyfrifiad yn tanlinellu argyfwng cymunedau Cymraeg. Rhaid cyfaddef mod i'n poeni'n ddirfawr am ddyfodol y Gymraeg, ond ar dir mymryn yn wahanol i'r Gymdeithas.

Cwestiynau digon amrwd sy'n sail i'r cyfrifiad ac felly fe welwyd yn ddiweddar cynnydd sylweddol iawn ymysg y plant yn y De Ddwyrain er enghraifft sy'n 'siarad' Cymraeg. Does dim dwywaith fod elfen o hyn ynghlwm a thwf addysg Gymraeg, ond mae elfen arall sy'n deillio o'r datblygiadau yn addysg cyfrwng Saesneg i ddysgu rhywfaint o'r Gymraeg. Rwy'n tybio y bydd y patrwm yma yn parhau ac efallai y gwelwn gynnydd pellach wrth gyhoeddi'r ffigyrau. Ond mae peryg i'm tyb i hynny celu dirywiad pellach a sylweddol yn y nifer o bobl sy'n rhugl ac yn hyderus wrth siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg.

Efallai mai fi sy'n eithriad, ond dros y flwyddyn neu ddau ddiwethaf, rwy' wedi cwrdd â nifer o gyfeillion sydd er eu bod yn siarad Cymraeg, yn naturiol ac yn fwy cyffyrddus yn siarad Saesneg. Os yw'r Gymraeg gwirioneddol i ffynnu fel iaith gymunedol ar draws Cymru yna mae'n rhaid i'r patrwm hynny newid - a cham cyntaf mae'n siŵr i'r cyfeiriad hynny yw cywain gwybodaeth ddibynadwy am ystod sgiliau ieithyddol y boblogaeth. Byddai modd wedyn datblygu hyder a gallu'r sawl sy'n medru'r Gymraeg ond ddim yn ei siarad drwy weithgarwch penodol. Byddai'r fath strategaeth yn fodd o osod seiliau cynaliadwy ar gyfer y Gymraeg i'r dyfodol, a hefyd mynd i'r afael gyda'r angen am wreiddio'r Gymraeg fel iaith gymunedol mewn ardaloedd traddodiadol Gymraeg sy'n profi mewnlifiad sylweddol ar hyn o bryd.

Friday, 30 December 2011

Hyder Economaidd

Mi roedd un o'm darlithwyr mewn economeg wleidyddol yn arfer cychwyn cwrs o ddarlithoedd drwy losgi papur pum punt. Roedd hynny yn anorfod yn creu rhywfaint o gyffro yn y dosbarth - ond roedd ei bwynt yn un rymus - am bwysigrwydd ein cyd-ddealltwriaeth (a'n hyder) mewn elfennau o'r sustem economaidd. Dros y flwyddyn a mwy diwethaf rwy'n teimlo nad yw Llywodraeth Prydain yn benodol wedi mynd ati i gynnal hyder economaidd mewn cyfnod anodd. Mae'r naratif o doriadau angenrheidiol a thrafferthion dybryd yn rhwym o effeithio ar hyder economaidd ymysg y cyhoedd.

Dwi ddim am eiliad yn awgrymu nad oes problemau o ran gwariant cyhoeddus yn ein gwynebu, ond mae'r pwyslais ar doriadau wedi creu mwy o ansicrwydd a thrwy hynny effaith negyddol ar berfformiad economaidd go iawn. Mae hynny yn ei dro wrth gwrs yn golygu llai o arian yng nghoffrau'r trysorlys ac felly mwy byth o drafferthion gwariant cyhoeddus.

Mae'n hwyr iawn yn y dydd i Lywodraeth Cymru wneud unrhyw beth am y sefyllfa, ac rwy'n ofni y gallai'r gyflafan economaidd mewn rhannau o Ewrop danseilio unrhyw gamau positif ymlaen. Ond, tybed onid oes achos cryf yma yng Nghymru i'r Llywodraeth ddechrau ail-adeiladu hyder? [Rwy'n meddwl yn benodol am ddadansoddiad campus Danny Blanchflower - yr economegydd nid y pêl-droediwr - sy'n dangos fod dengwaith yn fwy o bobl yn poeni am golli eu swyddi nag sy'n gwynebu perygl gwirioneddol o golli swydd]. Oni ddylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi na fydd yn ddiswyddiadau gorfodol yn y sector cyhoeddus am y ddwy flynedd nesaf i unrhyw un sy'n ennill islaw dyweder £50,000 y flwyddyn? Byddai angen efallai i bobl symud swyddi, ac i gyrff wneud defnydd priodol o gyfleoedd sy'n codi drwy cyflogeion yn gadael i leihau costau, ond byddai datganiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru rwy'n tybio yn mynd rhan o'r ffordd i ddechrau ail-adeiladu hyder economaidd yng Nghymru.

Mae disgwyliadau a chanfyddiadau llawn mor bwysig â 'realiti' wrth lywio penderfyniadau economaidd ac oni bai fod llywodraethau yma yng Nghymru ac ar draws y byd yn dechrau mynd i'r afael a hyn, gall yr hinsawdd economaidd ddirywio yn sylweddol iawn yn ystod y 12 mis nesaf.

Thursday, 29 December 2011

Papurau Newyddion / Cylchgronau Dwyieithog

Wedi pwt sydyn o frwdfrydedd am flogio yn Gymraeg, wnes i fethu a chadw blog Cymraeg i fynd ochr yn ochr a'm blog cyfrwng Saesneg! Mae'r blog Saesneg oedd yn gysylltiedig gyda'm hymgyrch etholiadol i raddau helaeth bellach wedi gorffen, ac felly dyma benderfynu ail gychwyn y blog Cymraeg, a hynny fel rhyw fath o adduned blwyddyn newydd.

Un testun sydd wedi achosi tipyn o drafodaeth yn ddiweddar yw cyhoeddi papurau newyddion dwyieithog, wel rhywfaint beth bynnag! Yn benodol rwy'n meddwl am bapurau newyddion Plaid Cymru, y Ddraig Goch a'r Welsh Nation. Maent ill dau yn cael eu cyhoeddi ar yr un pryd ond mae'r golygyddion yn wahanol ac mae'r cynnwys yn amrywio - er bod y themau yn weddol o gyson. Mae awgrymiad diweddar wedi ei wneud y dylid cyhoeddi un papur newyddion / cylchgrawn a honno yn ddwyieithog.

Yn reddfol mae'n rhaid i mi gyfaddef nad yw'r syniad yn apelio yn enfawr ataf. Os oes ysgrifennu creadigol / newyddiadurol yn cael ei saernio yn y naill iaith neu'r llall, a'r ddwy cyhoeddiad yn rhai o safon, mae'n bosib dadlau y dylid cadw cyhoeddiadau Saesneg a Chymraeg. Ar y llaw arall mae dadl dros gynnwys yr union un straeon mewn un papur / cylchgrawn cyfansawdd ddwyieithog. Dwi heb fy argyhoeddi naill ffordd neu'r llall, ond buasai'n dda gennyf glywed barn amrywiol ar y testun.

Gan ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i bawb.

Rwy'n gobeithio y bydd y blog yn tipyn mwy toreithiog y tro hwn!

Sunday, 5 September 2010

Trident a Gwaraint Amddiffyn

Un o'r brwydrau mwyaf diddorol sy'n digwydd dros gyllid yn y Llywodraeth Glymblaid Prydeinig newydd yw honno dros Trident. Ar un ochr mae'r Trysorlys yn mynnu fod y gwariant yn dod o'r Weinyddiaeth Amddiffyn, ar yr ochr arall mae Liam Fox a'r MoD yn dadlau mai'r pwrs cyffredinol yn hytrach na'r gyllideb amddiffyn dylai dalu.

Nawr efallai ar yr un wedd fod hyn yn ymddangos yn drafodaeth di-bwrpas - mi fydd y gwariant yn gorfod dod o'r pwrs cyhoeddus rhywsut neu'i gilydd. OND, mi fyddai mynnu fod yr holl wariant yn dod o'r gyllideb amddiffyn yn golygu y bydd yn rhaid i'r MoD flaenoriaethu yn galed iawn - toriadau mawr iawn i'r lluoedd arfog a trident? neu datblygu lluoedd arfog addas a modern i heriau'r unfed ganrif ar hugain ond dim trident. Mi fydd yn drafodaeth difyr iawn i wylio - ac mi fydd yn gyfle i'r sawl sy'n dadlau dros arfau niwcliar fel pethau hollbwysig i ystyried yn llawn y toriadau fydd angen i bob man arall yn y gyllideb amddiffyn o gadw trident. Yn yr achos yma dwi'n credu fod y Trysorlys yn llygaid ei lle - ac yn gwneud cymwynas (yn sicr ddigon yn anfwriadol) gyda'r nifer cynyddol ohonom sy'n dadlau nad oes lle i Trident.

Saturday, 4 September 2010

Hynt a Helynt Plaid Cymru

Mae na dipyn o drafodaeth wedi bod dros misoedd diwethaf ar hynt a helynt Plaid Cymru - gweler Guto Dafydd neu John Dixon er enghraifft. Mi fu Wales Home hefyd yn trafod argyfwng honedig y Blaid.

Yn gynharach yn yr Haf derbyniais i wahoddiad i draddodi sgwrs i etholaeth Canol Caerdydd gan Owen John Thomas - mi roeddwn yn falch o'r gwahoddiad ac wedi cymryd y cyfle i fyfyrio rhywfaint ar safle'r Blaid yn dilyn yr Etholiad Cyffredinol ac wrth edrych tuag at 2011. Wrth gamu yn ol rhywfaint, yn hytrach na'r ychydig siom wnaeth ddilyn yr etholiad - darlun optimistaidd daeth i'm sylw.

Yn hanesyddol (a dwi'n son am hanes canrifoedd fan hyn), os yw'r bleidlais refferendwm yn cael ei gario ym mis Mawrth, mi fydd y genhedlaeth presennol o arweinyddion y Blaid wedi cyflawni dyhead cenhedlaethau lawer o Gymry i greu Senedd deddfwriaethol, ar dir Cymru, wedi ei ethol gan bobl Cymru yn ymwneud a materion mawr bywyd pob dydd. Dwi ddim yn credu gellid gor-bwysleisio'r llwyddiant hanesyddol hynny i greu newid sylfaenol yn nhrefniant cyfansoddiadol ein gwlad.

Wrth gwrs mae'n rhaid ennill y refferendwm yn gyntaf, ac mae na waith mawr ymgyrchol a chenhadol i wneud yn esbonio'r manteision ac yn dinoethi celwyddau 'True Wales' (sic); ond mi fuaswn i'n dadlau fod lle i fod yn optimistaidd iawn am ddatblygiad y genedl Gymreig.

Mae na dasg penodol gan y Blaid dros y 12 mis nesaf - o ran y refferendwm a chynnig rhaglen amgen o lywodraeth i bobl Cymru ym Mai 2011.

Tybed efallai serch hynny nad oes yno waith i'w cyflawni yn y blynyddoedd nesaf i ddiffinio brwydrau mawr y genhedlaeth nesaf o genedlaetholwyr - a chynnig dadansoddiad a rhaglen grymus am ddatblygiad y genedl dros y degawdau nesaf. Mae'r Blaid ar ei orau wrth feddwl am yr heriau hir dymor sy'n gwynebu'r genedl a'r byd - dwi dal yn rhyfeddu wrth gofio darllen cynnig am newid hinsawdd a pherygl cynhesu'r byd o gynhadledd y Blaid yn y 70au cynnar - ond dyma'r union fath o feddwl sydd wedi nodweddu'r Blaid yn hanesyddol, ac sydd efallai wedi ei golli rhywfaint yn sgil y brwdfrydedd i adeiladu ein sefydliadau cenedlaethol democrataidd dros blynyddoedd diweddar.

Yn sicr ddigon i mi felly does dim argyfwng ym Mhlaid Cymru - mae achos dathlu a chydnabod llwyddiant hanesyddol; ond wedyn mae na her a gwaith mawr i'w gwneud wrth ddiffio ymdaith y Genedl Gymreig yn hanner cyntaf yr unfed ganrif ar hugain.

Friday, 3 September 2010

Pethau Bychain

Ychydig fisoedd yn ol mi fues i'n ddigon ffodus i wrando ar gyflwyniad ar ddefnydd y Gymraeg ar y we, a bu'r cyflwynydd yn nodi cyn lleied o flogiau Cymraeg oedd wrth ystyried poblogaeth Cymru. Mi ddes i o'r cynhadledd yn argyhoeddedig mod i'n mynd i sefyldu blog yn Gymraeg - ond hefyd yn pendroni am ddwyieithrwydd. Ai sgwennu dau flog gyda'r un cynnwys - un yn Saesneg ac un yn Gymraeg dyliwn i wneud.

Mi roedd hynny efallai yn ddigon o esgus i beidio gwneud dim, ond mae diwrnod Pethau Bychain wedi fy ysbrydoli i lansio'r blog Cymraeg. Dyma benderfynu hefyd y byddai fy mlog Saesneg yn parhau sy'n ymwneud yn helaeth iawn a Chwm Cynon, a cheisio ffocysu trafodaethau'r blog yma ar faterion mwy cenedlaethol a rhyngwladol.

Mi fyddaf yn postio yn hwyrach yn y dydd i drafod hynt a helynt y Blaid ar hyn o bryd. Llongyfarchiadau mawr i'r tim wnaeth ddyfeisio cysyniad Pethau Bychain.