Wednesday 21 March 2012

Lleihau'r Gyfradd Dreth - Codi'r Dreth a Gesglir?

Ar ddiwrnod y gyllideb mae tipyn o drafodaeth eisoes yn digwydd parthed y gyfradd dreth uchaf o 50%. Rwy'n credu'n gryf mewn ail-ddosbarthu cyfoeth, ac yn ystyried fod sustem drethiannol flaengar (os mai dyna'r gair cywir am 'progressive taxation') yn rhan o gymdeithas war. Ond mae'n rhaid i mi gyfaddef nad ydw i wedi fy argyhoeddi am y gyfradd dreth 50%. Rwy'n dweud hynny am fy mod i yn amheus iawn o faint o unigolion a ddylai fod yn talu 50% fel cyfradd dreth sy'n ei dalu mewn gwirionedd.

I'm tyb i, byddai sustem dreth decach yn cynyddu'r gyfradd ddi-dreth i 10,000 yn gosod cyfradd dreth sylfaenol o 20% hyd at y lefel presennol (ychydig dros £40,000) ac wedyn yn gosod 40% uwchben - OND yn cau pob math o gyfle i'r sawl sy'n ennill ffortiwn i beidio talu 40%.

Mae sawl enghraifft syml o hyn - pam fod y sawl sy'n ennill ar y lefel uchaf yn gallu buddsoddi £10,000 y flwyddyn yn ddi-dreth mewn ISAs. Gall hynny greu incwm sylweddol iawn - heb unrhyw dreth wrth fuddsoddi yn rheolaidd. Ar ba sail ydy hi'n deg fod y sawl sy'n ennill £70,000 mewn cyflog yn derbyn dwywaith gymaint o ryddhad treth am gyfraniadau pensiwn nag y byddai rhywun sy'n ennill £35,000. Pam dylai rhywun ar gyfradd dreth uwch gallu prynu cyfranddaliadau yn y Byd gwerth £500 am £300 (de facto) tra bod rhywun ar gyflog llai yn gorfod talu £400 am yr un cyfranddaliad. Ac mae'r sgandal o unigolion fel Ken Livingstone sy'n ennill cannoedd o filoedd a danfon yr arian trwy gwmni ac felly yn arbed degau o filoedd mewn treth yn dan ar fy nghroen.

Dwi ond wedi crafu'r wyneb yn fan hyn - ond mae 'na lwyth o enghreifftiau eraill. Rwy'n cofio darllen beth amser yn ôl fod y sawl sy'n ennill dros £100,000 ar gyfartaledd yn talu rhyw 23% o dreth ar eu hincwm. Mae hyn i'm tyb i yn warthus. I mi felly, prawf mawr y gyllideb yw a fydd y Canghellor yn mynd i'r afael o ddifrif gyda'r cyfleoedd sydd yno i bobl gyfoethog (iawn) i osgoi talu'r dreth sy'n ddyledus. Os yw adfer cyfradd 40% fel y gyfradd uchaf yn rhan o'r fargen a bod sicrhau fod pawb sydd fod i dalu 40% yn gwneud hynny, byddai hynny'n gyfundrefn llawer tecach na'r drefn bresennol.

O.N. Ymddiheuriadau am flogio ysgafn yn ddiweddar - gwnaeth ymgyrch arweinyddiaeth y Blaid dwyn fy sylw ...